Ailddysgu

Tuesday, 30 December 2025

Llwynogod - eto

 Mae’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt yn ein hannog ni i wneud gweithgareddau i gefnogi bywyd gwyllt ar y 12 diwrnod o Nadolig.  Fel dach chi’n gwybod dwi’n trio gwneud y pethau yma beth bynnag ac yn aelod o fy ymddiriedolaeth leol.  OND, gwelais fod modd cael yr e-bost yn y Gymraeg, felly dyma fi yn derbyn yr her ac yn cael neges e-bost bob dydd.  Ddoe, dyma’r benawd:

 

Mae'n Ddiwrnod chwech 12 Diwrnod Gwyllt ac mae gwahoddiad i chi sianelu eich llwynog mewnol!

 

Felly neithiwr, ar ôl diwrnod a oedd braidd yn segur ar brydau, es am dro am ryw dri chwarter awr i lawr y llwybr a oedd unwaith yn rheilffordd (the railway walk).  Mae’r llwybr yma yn cychwyn yn agos iawn i fy nhŷ: 5 munud i ffwrdd ar droed.  Mae o’n mynd heibio rhandir ac mae ’na ddigonedd o lecynnau gwyrdd eraill yn eithaf agos.  Ac mae o leiau un bâr o lwynogod yn byw ar y rhandir fel gwelwch yn y llun isod.  (Tynnais y llun yma dipyn o amber yn ol, ac yn yr haf).

 



Mae ’na oleuadau ar hyd y rhan fwyaf o’r llwybr felly doedd o ddim yn teimlo’n beryglus na rhy dywyll i gerdded am dipyn ar hyd y llwybr - ac ar ôl ugain munud, dyna’r llwynog gyntaf .  Mae llwybr bach yn mynd o’r llwybr reilffordd i stâd sy’n agos ato a dyna’r llwynog yn rhedeg heibio car.  Llwynog mawr a oedd i’w weld yn iach iawn.  Ond wrth gwrs, erbyn i fy nghyrraedd lle welais i fo, roedd o wedi mynd.  Felly yn ôl ar y llwybr, ac ar ôl ryw 10 funud, gweld llwynog arall.  Doedd yr un yma ddim yn agos iawn a diflannodd mewn chwinciad, ond mor braf ydy cael gweld yr anifeiliaid yma.

 

Ar ôl hynny es i chwilio mewn llefydd a oedd yn debyg o ddenu llwynogod, ond ni welais un arall.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home