Diwrnod eithaf braf heddiw eto - dydd olaf Mai, fy hoff mis [dwi’n meddwl..... mae Hydref yn wych.... a Mehefin hefyd]. Ar y comin, mae’r blodau ymenyn allan o hyd,
a mae blodau’r elderflower allan hefyd [bydd rhaid edrych yn y geiriadur am y gair Cymraeg]. Ond ro’n i’n synnu i weld y madarch yma
allan wrth fynd am dro gyda’r wyrion prynhawn yma. Mae o’n edrych fel madarch arferol - un bwytadwy - ond ym mis Mai? Braidd yn gynnar!
Tra ’roedd y wyrion yn cysgu dros amser cinio, llwyddiais i rhoi’r planhigion tomatos yn ei lle yn y tŷ gwydr - dwi’n defnyddio’r cyfundrefn sydd ar a gael gan cwmni o’r enw
Greenhouse Sensation sydd yn gweithio’n dda. A hefyd yn yr ardd, dwi wedi rhoi dwy o’r courgettes allan yn ei lle - gyda dipyn o amddiffyniad: peledi organic i atal gwlithod, ond wedi eu cuddio dan clochau bach neu mewn jariau bach fel bod yr adar ddim yn medru cael nhw. Hefyd mae un o’r planhigion mewn coler copr, ac un mewn coler plastic ac yn olaf, cwrw i atynnu’r gwlithod...
Ond gawn ni weld os bydd hwn i gyd yn llwyddianus.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home