Ailddysgu

Monday 14 August 2023

Salfia

Ar ol y sychder a’r poethder llynedd, a wedyn tymherau isel iawn ar adegau yn y gaeaf, collais rhai blanhigion, yn enwedig salvias.  Dwi’n hoff iawn o salvias a mae’r un hon wedi bod yn yr ardd am flynyddoedd. 


Dwi’n meddwl mai Salvia Officinalis 'Blackcurrant' ydy hi.  Beth bynnag maent yn flodau hardd, gyda ogla da, ac yn blodeuo trwy’r haf a trwy’r hydref hefyd.  Mae’r gwennyn a thrychfiold eraill wrth eu boddau gyda nhw hefyd.  Yr  unig peth ydy eu bod yn tyfu braidd yn fler wrth heneiddio.  A mae hi'n dawn pa mae hi'n sych, hefyd, does dim angen llawer o ddwr.

A tan y gaeaf llynedd, roeddent yn goroesi bob gaeaf.  Ond, cawsom ryw dri spelan o dywydd rhewllyd ofnadwy ac un ohono nhw yn para am ryw 8 diwrnod, a doeddent dim yn medru goroesi hynny.  Yn ffodus roeddwn ni wedi cymryd torriadau ond yn anffodus gyda tendenitis yn fy arddwrn dde dros y gaeaf doeddwn ddim  yn medru edrych ar ol y torriadau (yn y tŷ gwydr) pan roedd y tywydd yn ddrwg.  Felly ond un neu ddau wnaeth oroesi.  Ac o’r diwedd daeth hon yn ol, yn raddol iawn.

 

Felly amser cymryd torriadau eraill mewn dipyn, a gobeithio bydd y tenenitis ddim yn dod yn ol eleni.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home