Ailddysgu

Monday, 23 January 2023

Tywydd gaeafol anhygoel

Dan ni wedi cael tywydd anhygoel yn ddiweddar. Oer iawn ond prydferth gyda’r barrug yn parhau trwy’r dydd a’r haul yn gwenu. Felly taith cerdded eitha hir bore ddoe, ar y comin.A dyma be oedd ar yr afon: hwyaid danheddog.



Braf, hefyd, oedd dydd Sadwrn; unwaith i’r niwl clirio. Es i lecyn bach lleol, eitha diwydiannol, lle roedd sgwarnogod i’w gweld. Dyma llun tynnais yn 2018 ....



Ond 
dim rŵan,ar ol gymaint o adeiladu.  Ond mae’r ceirw dwr Tsineiaidd yna o hyd, ryw 11 ohonyn nhw.



Dim yn agos iawn, ond braf eu gweld nhw.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home