Ailddysgu

Monday, 23 June 2025

 Ydych chi’n cofio fy mherllan anghyfreithlon?  Ryw fath o arddio gorila.  Sawl flwyddyn yn ôl, efallai 20 mlynedd yn ôl, pan redais allan o le yn fy ngardd i dyfu coed ffrwythau, defnyddiais y tir tu allan i fy ngardd; tir y cyngor.  Yna rhois goeden afalau coginio (a chafodd ei dorri gan beiriant gwair y cyngor...); coeden cnau; hen fath o goeden afalau (a oedd yn bodoli yn ôl y sôn yn amser y Rhufeiniaid; dwy goeden eirin a choeden gellyg.  Ond dwi wedi ychwanegu coeden eirin gwlanog (dydy hon ddim yn gwneud yn dda, yn anffodus; ffigysen a mulberry (morwydd?)

Neithiwr roeddwn i allan yno yn gweld sut yr oedden nhw’n gwneud ar ôl gymaint o sychder a gwres.  Mae digon o gysgod yna erbyn y prynhawn hwyr a dwi ddim yn cael cyfle i dynnu’r chwyn o gwmpas chwaith, (er mae hi’n well tynnu’r chwyn o gwmpas bôn coeden) felly mae ’na ryw naws gwyllt i’r llecyn.  Ac maen nhw’n gwneud yn dda eleni ar y cyfan.  Unwaith mae gwreiddiau coeden wedi treiddio yn ddwfn i’r tir, mae’r goden yn medru darganfod dŵr.  


Wrth gwrs, mae hi’n beth dda i ddyfrio o bryd i’w gilydd os ydy hi’n wirioneddol sych, ond gan ei bod i wedi bod mor sych - a phoeth - dwi wedi bod digon prysur yn cadw’r ardd ei hun yn mynd, felly roeddwn yn falch gweld bod y ffrwythau eleni yn edrych yn fendigedig, ar wahân i’r ffigysen.  Mae hon yn iach ond does dim llawer o ffigys arni hi.  Fel un o’r coed afalau yn yr ardd, mae hi’n ffrwytho yn dda bob yn ail flwyddyn - a llynedd yr oedd hi’n doreithiog.


Tair blynedd yn ôl, rhois goeden gellyg arall i mewn.  A mae hi'n ffynnu.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home