Gwibdaith Gŵyl Ddewi 2025
Gwibdaith go iawn, eleni. Doeddwn i ddim yn medru cymryd llawer o amser i ffwrdd ac felly penderfynais fynd ar dydd Gwener a dychwelyd ar ddiwedd prynhawn Sadwrn. Ond gyda’r trên yn cael ei ddileu, roedd rhaid cael trên cynharach i ddod yn ôl.
Serch hynny roedd y tywydd yn hyfryd a Chaernarfon yn sgleinio yn yr haul. Mae hi wastad yn braf cael bod yn rhywle lle mae’r Gymraeg yn eich amgylchynu: o ymuno â’r trên yng Nghaer tan gyrraedd Caer ar y ffordd adre.
Es I i ddarlith gan Bob Morris bore dydd Sadwrn am Eisteddfod Llangollen (Eisteddfod Genedlaethol) 1858. Stori gyffrous gyda chymeriadau angerddol ac weithiau braidd yn wallgo. A mwy nag un ffrae; yn wir, parhaodd y ffraeo am rai blynyddoedd. Dwi wedi gwrando ar Bob Morris o’r blaen ac mae o wir yn gwybod ei bethau a’i hanes ac yn gwneud y ddarlith yn fywiog.
Wedyn sesiwn am y gyfres Amdani, ac am sgwennu llyfrau i ddysgwyr neu ddarllenwyr newydd: sgwrs rhwng Eirian James â’r awdures Mared Lewis. Mae hi’n wir ddiddorol gweld sut mae hi (ac eraill) wedi mynd amdani (sori) i sgwennu’r llyfrau yma. Darllenais Fi a Mr Huws heb wybod mai lyfr ar gyfer dysgwyr ydi o. Ond mae hi’n stori dda - a dyna’r pwynt, bod y llyfrau yn darllen fel unrhyw nofel dda - ac yn gwneud i chi isio troi’r tudalennau.
Doeddwn i ddim wedi sylwi bod y llyfrau yma wedi eu sgwennu i ddilyn patrymau’r iaith mae dysgwyr ar y safon yna yn gyfarwydd â nhw.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home