Edrych yn ol
Post dipyn bach wahanol heddiw - yn edrych yn ôl ar y busnes blogio yma. Dwi’n cofio pan glywais am flogiau am y tro cyntaf yr oedd yr erthygl yn dweud rhywbeth fel: “Would you write your diary for a thousand readers?” a’r awgrymiad oedd mai dyddiadur ydy blog yn y bôn, ac wrth gwrs mae dyddiadur yn medru bod yn bersonol iawn. Ac yn wir, yn ôl wicipedia: “The modern blog evolved from the online diary” yng nghanol y nawdegau.
Yn fy ngwaith, yn y Brifysgol Agored, roedd un neu ddau wedi dechrau blogio, yn cynnwys un o fy nghyd-weithwyr Martin Weller Ryw ddwy flynedd yn ôl gadawodd Martin y brifysgol hefyd. Roedd y ddau ohonom wedi gweithio gyda’n gilydd yn golygu siwrnal, JIME. Pan o’n yn dechrau meddwl am sgwennu blog, roedd eraill yn y brifysgol yn ein hannog ni i sgwennu am ein gwaith, pethau academaidd. Ond penderfynais doeddwn ddim eisiau gwneud hynny. Roedd hynny’n teimlo’n rhy noeth, rywsut.
Un peth yr oedd Martin yn pwysleisio oedd pwysicrwydd darganfod dy lais wrth sgwennu blog, ac mae hynny’n wir. Yn y diwedd penderfynais sgwennu blog am ail-ddysgu Cymraeg, yn Saesneg, yn 2007 ond erbyn 2009 roeddwn hefyd yn sgwennu blog Natur leol:
ac yn yr un flwyddyn dechreuais y blog yma.
Meddyliais ei fod yn amser i ymarfer fy Nghymraeg trwy sgwennu yn y Gymraeg. Penderfynais beidio â phoeni ormod am wallau gramadegol.
Wrth edrych yn ôl ar y blogiau cynnar, gwelaf fy mod yn sgwennu am ddysgu Cymraeg fel arfer; felly cyrsiau; ysgolion undydd; ymweliadau â Chaernarfon; llyfrau a.y.b. a hefyd sgwennu am yr heriau fel gramadeg:
ac am fy eisteddfod gyntaf hefyd.
Ac ar ddiwedd y flwyddyn (falle dechrau’r flwyddyn ganlynnol) sgwennais am yr ysgol Galan ym Mangor:
Yn eithaf buan wnes i roi gorau i roi “tagiau” yn y blog, ond parhau gyda phethau Cymraeg a Chymreig a oedd yn bwysig i fi, fel mynd i Ŵyl Arall yng Nghaernarfon am y tro cyntaf yn 2011.
Roedd y digwyddiadau yma yn bwysig i fi ac i fy siwrne ail-ddysgu. Es i’r Ysgol Galan dwy neu tair gwaith: ffordd ardderchog o roi sbardun i’r Gymraeg ar ddechrau blwyddyn newydd, a daeth Gŵyl Arall yn rhan bwysig o fy myd Cymraeg.
Yn 2012, am y tro cyntaf ers bod yn yr ysgol penderfynais wneud cwrs a oedd yn fwy na phenwythnos. Darganfyddais cwrs i oedolion trwy’r post. Prifysgol Bangor a gynigiodd y cwrs hwn: cwrs Maestroli ac am y tro gyntaf, roeddwn yn cael adborth ar fy ngwaith ac yn trio o ddifrif i ddysgu rheolau gramadeg.
Fel edrych ar hen luniau, mae cadw blog yn rhoi gwybodaeth i chi hefyd – fel, pryd ddechreuodd y clwb darllen Llundain? 2012!
Yn amlwg yr oedd 2012 yn flwyddyn bwysig. Mi wnes gyflwyniad yn y Gymraeg yn yr eisteddfod a hefyd dechrau grŵp siarad Milton Keynes. A dwi wedi cael hwyl yn mynd trwy’r blog a gweld be oeddwn yn gwneud ynglŷn â’r Gymraeg. Byddaf yn dod yn ôl i’r pwnc yma eto.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home