Caneuon Cymraeg
I fi, mae gwrando ar (a canu) caneuon yn ffordd dda o ddysgu Cymraeg: a weithiau mae'r iaith sydd yn cael ei ddefnyddio yn gymysg o iaith lafar a iaith mwy "cywir" neu ffurfiol. Mae hyn yn wir am ganeuon Meinir Gwilym a dwi’n ddiolchgar iawn i Gareth am cyflwyno ei chaneuon i fi. Gan fy mod i'n byw yn Lloegr dwi ddim yn clywed digon o gerddoriaeth Cymraeg i wybod be dwi’n hoffi neu beidio. Ond yn sicr dwi’n hoffi caneuon Meinir. Ond, dwi ddim yn meddwl bod albwm newydd ar gael ers Tombola - sydd yn hynod o dda. Felly diolch i Neil Wyn Jones am awgrymiadau are ei flog dipyn bach yn ol – yn fama.
Ar ol darllen y blog, chwiliais am ganeuon Gwilym Glyn sydd ar yr Albym Tonau ar “Spotify” i weld os dwi’n licio nhw. (Dyma’r caneuon be sydd ar Tonau, dwi’n meddwl
1 - 'Mhen i'n llawn
2 - Dail Tafol
3 - Du ydi'r eira
4 - O'n i'n mynd i...
5 - Y forforwyn
6 - Cân y siarc
7 - Dy dywydd dy hun
8 - Tywod Gwyn
9 - Cariad
10 - Pa bryd y deui eto?
11 - Pwyll a Macsen
12 - Iâr fach yr ha)
Ond doedd y rhan mwyaf dim yna – nac ar Youtube chwaith – ond mwynhais Du ydi’r eira a hefyd dwi wedi clywed - Cân y siarc o’r blaen. Felly dwi ddim wedi penderfynnu eto ai ddylwn i brynu’r CD neu beidio.
1 Comments:
Y CD Cymraeg cyntaf wnes i brynu oedd gan Meinir Gwilym, 'Dim ond Clwydda' os cofiaf yn iawn. Rhaid i mi brynu Tombola, dwi wedi clywed nifer o'r traciau ar y radio ac yn eu licio. Mae Meinir yn brysur cyflwyno hefyd y dyddia 'ma ar Wedi 7 ac ar y radio, ond gobeithio gawn ni rywbeth newydd ganddi cyn hir.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home