Ailddysgu

Friday 8 April 2011

Llyfrau - eto!

Dwi wastad yn chwilio am lyfrau Cymraeg i ddarllen . R’on i’n arfer archebu nhw o lyfrgell y gwaith – ond, os ydy’r llyfr yn eitha newydd, yn aml mae’r neges yn dod yn ôl nad ydyw ar gael. Ers dipyn, dwi ddim wedi trio. A dwi ddim yn prynu gormod, achos mae’r pentwr o lyfrau Cymraeg digon fawr – a does dim gormod o le. Yn y cyfamser mi fydda I’n ailddarllen llyfrau Bethan Gwanas – wastad yn dda – hyd yn oed pan dwi’n eu ddarllen am y trydydd tro. Ond rhaid hefyd cael defnydd newydd rŵan. (Heb sôn am y llyfrau dwi wedi dechrau ac yn methu gorffen). Mae fy ffrind Gareth wedi awgrymu darllen Cychwyn gan T Rowland Hughes – ond wedi edrych arno dwi’n meddwl efallai bod Chwalfa yn edrych yn ddiddorol. Felly dwi wedi archeb hwnnw. (A dwi hefyd yn gaddo i fy hyn fy mod am ychwanegu i’r rhestr o lyfrau ar fy mlog. Wedi gweld hyn ar flogiau eraill, r’on i’n meddwl ei fod yn syniad da – a mae o – ond mae angen llenwi o i fewn – dim just gwneud un neu ddau!) Tra dwi’n son am lyfrau, welais adolygiad o lyfr diwethaf Gwen Parrot ar wefan Gwales. Ac am fy mod I’n hoff o storiau ditectif dwi’n meddwl prynu o.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home