Ailddysgu

Sunday 15 May 2011

Garddio a darllen


Dwi’n cael hi’n anodd cadw i fynny hefo’r blog yr amser yma o’r flwyddyn. Mwy na dim dwi wedi bod yn garddio. Ac am ei fod mor sych yma, mae angen treulio amser yn dyfrio hefyd. Dyma llun o’r ardd llysiau ryw fis yn ol, ar old dod yn ol o’r New Forest, lle roedden ni dros penwythnos y Pasg.

Nadolig dwytha roedden ni yn medru bwyta pannas o’r ardd, a moron o’r tŷ gwydr, er fod eira yn cyddio’r pannas. Ond, eleni, mae’r planhygion yn fach iawn o hyd, er eu fod yn cael eu ddyfrio.

O’r diwedd, hefyd, darganfais lyfr Cymraeg dwi wedi mwynhau gymaint. Llyfr gan Gwen Parrott - Hen Blant Bach. Llyfr ditectif, ond dim mewn ffordd arferol. Unwaith ddes i i arfer hefo’r tafodiaith, r’oedd o’n wych. Ei llyfr diwethaf ydy o; felly dwi wedi archebu llyfr arall gan yr un awdures, a gaeth ei cyhoeddi dwy flwydd yn ol.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home