Ailddysgu

Monday 23 May 2011

Hwylio


Dros y penwythnos ro’n yn hwylio. Dwi erioed wedi bod o’r blaen (ar wahan i mynd am dro bach yng nghwch fy mrawd yng nghyfraith yn dechrau yn Southampton. Y troy ma roedden ni’n dechrau yn yr un lle ond yn hwylio i’r Isle of Wight, ar cwch bach “classic” a gafodd ei adeiladu yn y tridegau.

R’oedd o’n hwyl a dysgais dipyn hefyd. Cawsom un diwrnod braf – dim rhy boeth – mae o reit oer unwaith dych chi allan ar y môr. Ond yn y nos, roedd yn stormus a gwyntog, a roedd yr angor ddim yn dal. Felly roedd rhaid symud tua 4.30 yn y bore! Ag unwaith roedden ni i gyd (6 ohonnon ni) wedi deffro, wnaethon i benderfynu symud a dechrau yn ol (o Newtown Creek) i Southampton, oherwydd roedd y tywydd am waethygu yn hwyrach yn y bore. Felly roedd yn gyffrous iawn, gyda gwynt cryf. Yn y dechrau doedd dim cwch arall i’w weld, ond wedi cael hoe back a coffi yn Cowes ac ail ddechrau roedd o’n fwy brysur. Yr unig beth wnes i ddim mwynhau oedd trio cysgu ac y. y. b. ar y cwch. Does dim llawer o le, a methais cysgu. A dim eisio codi i mynd i’r ty bach (fel dwi’n arfer gwneud sawl gwaith yn y nos) rhag deffro pawb arall (ia, ia, ŵn i; ormod o wybodaeth). Dipyn fel gwersyllu – a mae na reswm pam dwi ddim yn gwersyllu – gwell gen i gwely a brecwast!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home