Rhosyn "Rambling Rector"
Mae'r rhosyn "Rambling Rector" yn blodeuo yn fuan blwyddyn yma, ar ol Gwanwyn poeth - er ei fod yn oer rwan. Cawsom dipyn o law ddoe - dechreuodd bwrw ryw hanner awr wedi deg a r'oedd yn bwrw mwy er lai trwy'r dydd. Gobeithio bod dipyn wedi treiddio i'r daear. Ar ol tri mis a hanner hefo peth nesa i ddim o law, mae'r ardd yn sych ofnadwy. Dyn ni wedi bod yn dyfrio y llysiau a'r ffrwythau - ond dyw o ddim yn bosib rhoid digon o ddwr pan mae o mor sych.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home