Ailddysgu

Friday 18 November 2011

Caersaint


Dwi newydd orffen darllen Caersaint - gan Angharad Price, a wedi ei fwynhau yn ofnadwy. Dydi o ddim (ar y dechrau, beth bynnag) yn llawn o ddigwyddiadau gyffrous: yn hytrach, mae o’n mynd a ni i fewn i fywyd Jaman, sydd wedi dod yn ôl i Gaeersaint, tre bach Cymraeg yng ngogledd Cymru, gyda castell mawr hanesyddol, sy’n gyferbyn a Sir Fôn. Felly, fel y gwelwch, mae o wedi seilio ar Gaernarfon. A dyma rhan o adolygiad Angharad Tomos:

Mae’n gymaint portread o’r dref ag ydyw o gymeriad, ac i mi, dyma oedd rhan o’i hapêl. Tref ddychmygol ydyw, ond llen denau sydd yn ei chuddio, ac mae tyrau Castell Caernarfon, ei daearyddiaeth ac enwau’r siopau a’r strydoedd yn rhy amlwg i ni beidio cadw y Gaernarfon go iawn yn ein meddwl fel cefnlen y nofel.

Ag i fi, wrth sgwrs, wedi cael fy magu yng Nghaernarfon, roedd hwn yn wir iawn. Pan mae Jaman yn mynd am drô dros yr Aber i Goed Helen, dwi’n cofio gwneud yr un peth, a roedd y castell arall - yr un bach ar ben y bryn yn coed Helen, i’w weld o’n tŷ ni. Ond mae Caersaint yn fwy na hanes dyddiol y drê, a’r côfis, er ei fod nhw yn ran fawr o’r llyfr hefyd, efo’r cymeriadau ffraeth yn treulio ei amser yn yr Anglesey - oops - y Môna - lle dwi hefyd wedi treulio llawer o amser gyda fy mrawd. Mae o’n llyfr am wleidyddiaeth lleol: am bŵer - ag am pwy sy bia a sy’n rhedeg trê fel Caersaint. Mae’r ffordd osgoi yn cael dipyn o driniaeth a dwi’n cofio’r cynlluniau yn cael ei drafod. Doeddwn i ddim yn byw yng Nghaernarfon ar y pryd, ond roedd mam yna a roedd teimlad gryf, ond adeiladwyd y peth, sy’n hollti y dre mewn hanner.

Ar ol gorffen y llyfr, dwi wedi archebu llyfr arall Angharad Price: O! Tyn y Gorchudd o siôp Palas Print yng Nghaernarfon. Dwi wedi sôn am y siôp hôn o’r blaen. A pan es i’r wefan, nes i gofio bod erthygl am y siôp yn yr Independent Bookshops Directory a oedd ar gael gyda’r Guardian yn ol ym mis Hydref. Dyma un o’r pethau mae Patrick McGuiness yn dweud am Palas Prints:

The best thing about Palas Print, however is that, like the best independent bookshops, it gives off that “learn while you linger“ vibe, that makes it a pleasure to visit.

(A gyda llaw, mae llyfrau yn dod trwy’r post cyn gynted a gan Amazon, felly os dych chi’n prynu ar lein, defnyddiwch Palas Print, am llyfrau Cymraeg a Saesneg, yn hytrach nac Amazon)

Labels: , ,

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home