Ailddysgu

Thursday 11 August 2011

Llyfrau: Yn y tŷ hwn a Fflamio

Dwi wedi darllen dau lyfr dwi wedi mwynhau yn ofnadwy yn ddiweddar. Y gyntaf ydi Yn y tŷ hwn gan Siân Northey ag ar ôl orffen hwn es i ymlaen i ddarllen Fflamio gan Anne Pierce Jones. R’oedd hwn wedi ennill gwobr Daniel Owen yn Eisteddfod sir Fôn, dipyn o amser yn ôl (1999?). A clywais Siân Northey yn siarad am ei lyfr hi yng Nghaernarfon yn Gorffenaf. Mae’r ddau lyfr yn trafod perthynasau a hefyd dylanwad ac effaith plentyndod ar bywyd yr oedolion.

Dwi wedi trio arafu yn fy narllen ar ol darllen llyfr Saesneg - E. M. Forster is on the Landing gan Susan Hill. Mae hi’n sôn am ddarllen digon araf i fwynhau’r llyfr a’r ffordd mae o wedi gael ei sgwennu ac yn sôn am ruthro trwy llyfr fel ryw fath o “fast food“, lle does dim digon amser i flasu’r llyfr yn iawn.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home