Ailddysgu

Thursday 8 September 2011

Darlledu Byw Yn yr Ardd - Medi 14th, 20.25, S4C


Siaradais am ffilmio ar gyfer Byw yn yr Ardd mewn blog ym mis Mehefin. Mae’r rhaglen yn cael ei ddarlledu wythnos nesaf, Medi 14th am 20.25. Bydd ail gyfle i weld y rhaglen ar brynhawn Sadwrn Medi 17eg am 13.00 o'r gloch. Ers i’r ffilmio, mae pethau wedi dod ymlaen yn yr ardd yn dda iawn. Ym Mehefin, ron yn ymladd yn erbyn pryfed gwyrdd yn y tŷ gwydr, roedd y ffrwythau ar y coed yn fy mherllan gerila yn fach iawn, a ron yn cael traffeth efo’r ffa. Erbyn hyn, dyn ni wedi casglu pwysau o eirin, afalau coginio a cnau oddiwrth y coed yn y perllan anghyreithol a hefyd afalau ac eirin o’r ardd, llwyth o ffa a llysiau erill, a’r tŷ gwydr wedi bod yn dda hefyd. Wedi cael domatos, ciwcymber, pupurau a mwy i ddod, ac aubergines hefyd.

Dwi’n edrych ymlaen i weld sut oedd yr ardd yn ôl ym Mehefin - a sut siap oedd ar fy Nhymraeg i - dim rhy ddrwg, gobeithio..............

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home