Ailddysgu

Friday 16 September 2011

Casglu bwyd gwyllt


Rydyn wedi trefnu mynd am daith bach hefo Jane Perone, sydd yn gohebydd garddio y Guardian. Mae hi’n sgwennu blogiau hyfryd. Heddiw dyn ni’n cwrdd mewn tafarn am be sydd wedi disgrifio yn Saesneg fel “Foraging“. Os dych chi’n gwybod be ydi Foraging yn y Gymraeg, dwedwch wrtha i, plîs!

Beth bynnag, dwi’n hoff o gasglu pethau i fwyta, os medra i. Mae rhaid dweud fy mod i ddim wedi casglu mwyar duon eleni o gwbl - rhy brysur. Ond mi welais fadarch, dydd Sadwrn diwethaf (yn y llun). Mae rhaid bod yn ofalus, wrth sgwrs, efo madarch gwyllt. Blynyddoedd un ôl, roedden yn casglu pob fath o fadarch, ac y edrych yn y llyfr i sicrhau ei fod yn iawn i fwyta. Ond dipyn wedyn darganfais fod yna mwy o fadarch gwenwynig nag oedd yn ddangos yn ein llyfr ni! Rwan dwi yn hŷn, dwi’n ofalus iawn. Ond ron wedi bwyta hein o’r blaen a does na ddim madarch gwenwynig fel hein. Wedi dweud hyn, wnaethon ni ddim bwyta'r cwbl - a mi roedd yn flasus iawn. Ond gair o rybydd - ar ol sgwenu hyn, es yn ol i flog garddio Bethan, a oedd yn son am ei phrofiad ar cwrs madarch llynedd - a mae hi'n dweud bod na fadarch sydd yn debyg ond llai sydd yn wenwynig.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home