Ailddysgu

Thursday 18 August 2011

Y Sioe Amaethyddol


Mi aethon ni i sioe amaethyddol tra roedden ni yn aros efo fy mrawd yng nghyfraith yn y New Forest y penwythnos diwethaf. A dyma llun o rai o’r ceffylau gwedd (Suffolk Punch, dwi’n meddwl, sy’n mynd yn brin iawn). Daeth a atgofion melys yn ôl wrth cofio myn i’r sioe Gogledd Cymru pan oedden yn ifanc a hefyd i’r sioe Gaernarfon.
Y tro gora oedd pan es i yno efo fy yncl Bob, a oedd yn cystadlu yn y dosbarth “Welsh Mountain mare with foal at hand“ (dwi’n meddwl! Amser maith yn ôl). Primrose oedd enw y ferlen a Blizzard oedd enw yr ebol. (Wn i ddim pam oedd gennyn nhw enwau Saesneg).

Codi yn gynnar, molchi y ddau a brwshio nhw a wedyn ymlaen i’r sioe, yr ebol yn strancio yn y sioe (doedd o ddim wedi cael llawer o hyfforddiant mewn rheffyn (halter?). A wedyn yr anrhydedd o gael mynd a’r ddau rownd y cylch. Gwnaethon ni ennill rywbeth? Does gen i ddim syniad. Ond roedd yn hwyl fawr ag yn ddiwrnod cyffrous i eneth un-ar-ddeg oed.

Labels: , ,

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home