Ailddysgu

Sunday 25 September 2011

Dechrau'r hydref



Dyn ni wedi cael cynhaeaf da iawn eleni - a mae o’n para o hyd. Mae arolygion y tywydd yn dda - yn sôn am haf bach mihangel - felly dwi ddim am tynu allan y courgettes, na’r ffa, eto. Mae’r ffa dringo wedi gorffen - a gyda llaw - ar ôl y cwyno a gorfod planu eto a eto, r’oedd y ffa Ffrangeg bach yn dda iawn yn y diwedd. Dwi hefyd yn arbfrofi efo bresych hwyr. Mae planhigion bach, bach yn tyfu yn y tŷ gwydr, a rhai dipyn mwy - planhigion a phrynais o’r farchnad y ffermwyr - wedi cael ei rhoi yn yr ardd. Dwi ddim yn siwr sut hwyl fydd arnyn nhw, mae o braidd yn hwyr yn y tymor, ond gawn ni weld.

Dyma aubergine o’r ty gwydr. Mae ryw hanner dwsin arall yna hefyd, yn dod ymlaen.

A mae’r mafon hydref yn gwneud yn dda iawn eleni hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home