Ailddysgu

Monday 29 August 2011

Darllen: Y Gwyddel: O Geredigion i Galway

Fel arfer, dwi ddim yn trio sgwennu ryw adolygiad am y llyfr dwi’n darllen ar fy mlog. Y rheswm mwyaf yw fy mod yn ei chael hi yn anodd iawn i wneud hwn yn y Gymraeg. Dwi’n aelod o grwp ddarllen Saesneg ac ar ol darllen a trafod llyfr, mae’r person sy’n gyfrifol am y llyfr hwnnw yn sgwennu am y llyfr – ar ol gwneud nodiadau pan rydyn ni yn trafod y llyfr. Dwi ddim yn ffeindio hwn yn hawdd hyd yn oed – ond mae gwneud ryw fath o adolygiad yn y Gymraeg yn llawer llawer mwy anodd.

Ond dwi eisiau sôn am y llyfr dwi’n darllen ar y funud, oherwydd dwi’n mwynhau o gymaint. Ac efallai mi fyddaf yn llwyddo i roi rhyw syniad amdano fo.

Wyddon i ddim llawer o gwbl am yr awdur, Diarmuid Johnson, cyn dechrau. Erbyn hyn, mi wn mai bardd, ieuthwyr a hefyd cerddor ydi o. Mae’r llyfr yn ryw fath o hunangofiant– ond dim hunangofiant arferol. Hynny yw, mae’r awdur yn dewis pwnciau, o’i hanes bersonnol, neu themau hefo cysylltiadau a’i fywyd. Hyd at hyn, dwi wedi darllen 92 tudalen (allan o 128) a dwi wedi cael llun da o Galway yn yr 80au trwy lygaid Diarmuid. Mae’n sôn am amrywiol bethau: ei wreiddiau (tad o Iwerddon a mam Cymraeg), ei ddyddiau ysgol, dipyn am wleidyddiaeth ar y pryd, a physgota. Ond mewn pennod hyfryd efo’r teitl “Treigl y Tymhorau”, mae o’n sôn am hen arferion cefn gwlad yn ystod y gwahanol tymhorau – a mwy. Dwi’n trio darllen yn araf, I gael blasu ar y hanesion ac ar y iaith. Dydi o ddim yn llyfr rhy hawdd i ddarllen, ar brydiau (dim i fi, beth bynnag!) a rhaid i fi edrych ar ystyr llawer o’r geiriau yn y geiriadur, ond mae’r iaith yn llifo ac yn gyfoethog. (fel, efalla, fydden ni’n disgwyl, gan mae bardd ydi’r awdur). Er engraifft, yn y pennod yma,Treigl Y Tymhorau, mae o’n sôn am noson Galan Gaeaf. Dyma rhan o be mae o’n ddweud:

“Byddai Galan Gaeaf yn noson fflamau a mwg wedyn, a llond yr awyr frigoer o fonllefau’r tymor. Noson cysgodion ar y stepan drws yn bwhwmian canu dan eu penwisgoedd pantomein piws a phygddu. Noson cawodydd rheibus eisiau diffodd nwyd holl blant y byd. Noson gwreichion gwancus yn tasgu drow y fedwen fawr fawreddog a deifio’I brigau brau yn dost”.

Mae’r brawddeg diwethaf, yn arbennig, bron yn gerdd.

Ar y funud, dwi’n darllen am yr hen iaith. Mi gafodd Diarmuid Johnson ei addysg gynnar trwy’r Gwyddeleg pan aeth i ysgol y dre yn unarddeg oed. Hefyd, r’oedd ei dad yn medru’r Gwyddeleg (er mai ei ail iaith oedd o). Felly, dysgodd Gwyddeleg mewn cyfnod lle r’oedd nifer o siaradwr y iaith yn gostwng: “Er gwaethaf hyn y gyd, fe ddaeth y Wyddeleg yn iaith i fi”. Ond hyd at hyn, dydi o ddim wedi son am dysgu Cymraeg. R’oeddwn i’n disgwyl cael mwy o wybodaeth am ei amser yng Nghymru. Ond er i’r teulu treulio pob haf yn ol yng Ngheredigion, gawdawodd yr awdur Cymru pan oedd o yn ifanc iawn a treuliodd rhan mwyaf o’r blentyndod yn Galway. Felly dwi ddim yn siwr os ddysgodd oddiwrth ei fam gartref, neu yn hwyrach. Ond beth bynnag, mae ei Gymraeg yn hyfryd, a mae’r llyfr yn ddifyr ofnadwy.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home