Ailddysgu

Tuesday, 8 November 2011

Y tymor yn troi a'r tan yn gynes...


O'r diwedd dyn ni'n cael dipyn o law, ond hefyd mae'n dywyll yn fuan. A felly dyma'r amser i eistedd o flaen y tan a darllen - a dyna be mae'r ci yn gwneud bob tro mae'r tan ymlaen (na dim darllen, ond gorwedd yn agos, agos i'r tan). Dwi newydd orffen darllen O Ran gan Mererid Hopwood, a wedi ei fwynhau. Gwahanol iawn i Lladd Dyw (mwy am hwnna mewn pôst arall ond do, mwynhais Lladd Duw hefyd). Ond yn ôl i O Ran. Dim llawr o stori (h.y) narratif - mwy o gofiant. Ar taith trên Rhwng Llundain a Caerdydd mae Angharad yn cofio ei phlentyndod a'i pherthynas efo'i thad sydd yn gyfeilydd adnabyddus a sydd hefyd ar ei wely angladd.

Mwynhais y llyfr, sydd yn ddarlledwy (ar wahan i dipyn o dafodiaeth y De) a death a atgofion yn ôl i fi hefyd o deithio ar trên o Loegr i Gymru yn enwedig pan roedden yn fyfyddwraig yn y prifysgol (yn Sheffield) a teimlais fel y mod yn teithio rhwng ddau byd a dywylliant: Saesneg a Cymraeg, dosbarth canol a gweithio, dinas a dref fach gwledig, Lloegr a Cymru. Son am sgitsoffrenig! Ond mae'n amlwg bod teithio ar tren yn hel meddylion.

A gyda'r gaeaf yn dod yn gyflym mi fydd fwy o ddarllen i ddod.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home