O’r tŷ gwydr a’r hanes tu ôl i’r llun
Tynnais y llun yma (yr ail un) oherwydd ‘roeddwn eisiau dangos y gŵydd sydd yn byw gyda’r elyrch am ryw reswm. Ond ychydig cyn i fi dynnu’r llun, gwibiodd las y ddorlan heibio – fel stribyn o las ac oren. Hwn yw’r ail I fi weld dros y benwythnos – mi ges I gipolwg ar un arall yn estedd ar gainc, ddoe. Ac yn sicr, mae’r adar yma yn dangos bod adar Prydain yn medru bod yn lliwgar iawn!
Mae’r tywydd yn parhau yn fwyn iawn, a ddoe, casglais fwy o lysiau o’r tŷ gwydr. Mae nhw’n dechrau dod i’r diwedd, rŵan, ond wedi dweud hyn, fel gwelwch yn y llun, mae ‘na aubergines o hyd, a pupurau a hefyd moron ond nes i gasglu’r moron yma oherwydd bod y pryfed moron wedi ymosod arnyn nhw, a felly dydyn nhw ddim yn dda iawn. Mae’r moron sydd ar ol yn y tŷ gwydr yn edrych yn iawn, felly dwi’n gobeithio byddan nhw yn iawn erbyn Nadolig – a felly mi fyddaf yn medru cael moron o’r tŷ gwydr, a cennyn a pannas o’r ardd fel rhan o’r cinio Nadolig.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home