Ailddysgu

Wednesday 3 August 2011

Cwrs newydd

Dwi wedi gofrestru ar cwrs maestroli drwy’r post – o Brifysgol Bangor. I fi, yr amcen ydi gwella fy ngramadeg oherwydd bu rhaid I fi gwneud ymarferion – a hefyd mi fydda i’n cael gwybod be sy’n gywir a be sy ddim – ac yn bwysig – pam! A hefyd efalla ehangu fy ngeirfa.

Hyd a hyn dwi wedi cofrestru, wedi cael uned un a dau trwy’r post a wedi dechrau gweithio ar uned un. Fel swn i’n disgwyl, mae’r cwrs wedi ei seilio ar y cwrs arferol gwyneb-i-wyneb (ydi hwn yn iawn? Cyfieithiad llythrennol o face-to-face: a wn i ddim os ydi o yn gweithio!) Felly dwi ddim yn gallu gwneud rhai o’r ymarferion – fel – “trafodwch....’. Dwi ddim yn gwybod faint o amser bydd o’n cymryd a faint o amswer ddylwn i trio roi iddo fo bob wythnos. Y drefn ydi fy mod yn gyrru fy ngwaith ar uned un i fewn a wedyn yn gweithio ar uned dau tra dwi’n aros i gael gwaith uned un yn ôl.

Dwi wedi penderfynnu trio gwneud un uned mewn bythefnos. Dwi’n meddwl bod 20 uned yn gyfangwbl, felly, hefo gwyliau a.y.y.b ( bod yn hwyr wiethiau, e.e.) mi gymerith tua flwyddyn. Gawn i weld sut bydd o’n mynd!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home