Fel llawer o bobl eraill, dwi wedi bod yn myfyrio am sut mae’r dysgu wedi mynd eleni. Mae ’na bedair elfen i ddysgu unrhyw iaith, dwi’n credu: clywed a dallt yr iaith trwy gwrando arni hi; siarad yr iaith (mae’r ddwy elfen yma mewn pâr); a wedyn darllen yr iaith a sgwennu. Yn aml dydi’r pedair elfen yma dim mewn cydbwysedd - ac yn sicr, os dych chi’n byw tua allan i Gymru, mae’n hawdd gweithio ar rhai elfennau na’r lleill. Hefyd, wrth gwrs, mae angen cynhyrchu mewn ddwy o’r elfennau: siarad a sgwennu, ond i wrando a deallt, does dim rhaid darganfod y geiriau, dim ond dallt y geiriau (a’r patrymau) dyn ni’n clywed neu darllen.
Felly sut dwi wedi bod yn gwneud efo’r elfennau yma? Mi wnai sgwennu am yr elfennau eraill yn y dyfodol, ond i ddechrau dwi wedi bod yn myfyrio am ddarllen. Fel y gwelir o’r rhestr o lyfrau, dwi’n darllen llawer o lyfrau Cymraeg - i ddweud y gwir, dwi’n cael hi’n annodd, y dyddiau yma, i ddarganfod amser i ddarllen llyfrau Saesneg hefyd achos does dim amser i ddarllen yn Gymraeg a Saesneg.
Wrth edrych ar y llestr o lyfrau, dwi wedi darllen ryw 18 o lyfrau eleni, er fy mod i ddim wedi gorffen nhw i gyd; mae rhai o’r llyfrau yn llyfrau i ddarllen o bryd i bryd, dim o’r cychwyn i’r diwedd, fel, e.e. Cymru: Y 100 Lle, llyfrau barddoniaeth a dwi ddim wedi gorffen Owain Glyn Dŵr, chwaith. Ond dwi wedi gorffen y lleill, er bod rhai ohonnyn nhw braidd yn anodd - fel Awr y Locustiaid (storiau fer). Y dyddiau yma, y rhan mwyaf o’r amser, dwi ddim yn edrych geiriau newydd i fynny yn y geiridadur - dwi’n cario ymlaen (oni bai fy mod i ddim yn dallt o gwbl, neu fy mod i eisiau dysgu’r gair newydd). Ond dwi ddim yn siŵr be ydi’r ffordd gorau o ddarllen i ddysgu. I mi mae o’n bwysig cael naratif gryf, themau diddorol, a cael deialog dwi’n deallt (felly dim gormod o dafodiaith y de).
Os dwi’n darganfod awdur dwi’n hoffi, dwi’n mynd ymlaen i ddarllen ei lyfrau eraill. Felly es i ymlaen i ddarllen llyfr arall gan Gwen Parrott. A nes i fi ddarllen Si Bei, roeddwn wedi hoffi bob lyfr gan Geraint V Jones. Ges i ddipyn o siom efo Awr y Locustiaid, hefyd. Gallwn weld bod y storiau yn glyfar, ond roedd rhai rhy anodd - a dim um yn fy nghydio yn yr un ffordd a’r “Llyfrgell“. Roedd y Stafell Ddirgel braidd yn anodd hefyd, ond digon diddorol i fi eisiau darllen mwy am yr amser yna, a’r digwyddiadau - a mwynhais Y Rhandir hefyd.
A be oedd llyfrau gorau’r flwyddyn, i fi? Nes i fwynhau un llyfr yn enwedig: Y Tŷ Hwn, gan Siân Northey: archebais hwn ar ol clywed Sian yn siarad am y llyfr yn y Gŵyl Arall yng Nghaernarfon. Hoff lyfr arall oedd Caersaint, dwi’n meddwl (ond efalla dwi’n tueddu i ffafrio llyfrau dwi wedi newydd darllen ac yn medru cofio yn fanwl. Dwi’n cofio hefyd bod Y Gwyddel yn dda iawn - a dipyn mwy fel barddoniaeth mewn llefydd. Dwi wedi newydd gorffen Un Ddinas Dau Fyd gan Llwyd Owen, a fel ei lyfrau eraill, mae o’n stori gyffrous sy’n tynnu chi ymlaen. Dwi hanner ffordd trwy Piéta - ond ar ol hynny, dwi ddim yn siŵr be dwi am ddarllen nesaf. Felly dwi’n hapus cael awgrymiadau am be i ddarllen nesaf.
A sut mae hyn i gyd yn cyfrannu i’r Cymraeg? Dwi’n siŵr ei fod yn helpu fi i ehangu fy ngeirfa. Weithiau mae geiriau Cymraeg yn dod i fy mhen: geiriau dwi ddim wedi dysgu yn ymwybodol - a dwi’n meddwl bod rhai o rhein yn dod o ddarllen. Hefyd dwi’n trio edrych ar (a sylwi) y patrymau Gramadegol.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home