Fy rhestr o lyfrau Cymraeg
Dyma be sydd ar fy rhestr darllen ar y funud: rhai i brynu a rhai i fenthyg o’r llyfrgell. Dydyn nhw ddim mewn drefn arbennig:
1. Neb Ond Ni gan Manon Rhys. Hwn oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr eisteddfod, eleni.
2. Tair Rheol Anhrefn, gan Daniel Davies – a hwn oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Dwi ddim wedi darllen llyfr gan yr awduron yma h.y. Daniel Davies a Manon Rhys, felly dwi’n edrych ymlaen.
3. Stryd y Glep, gan Kate Roberts. Cyhoeddiad newydd ydi hon, o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn 1949. Ydi Kate Roberts fel Marmite tybed? ( Hoff iawn neu casau…) Beth bynnag, dwi wedi mwynhau y llyfrau dwi wedi darllen.
4. O! Tyn y Gorchudd, Ar ol darllen O Ran, archebais hwn o “Palas Prints” yng Nghaernarfon, a dwi’n edrych ymlaen……
5. Pieta, gan Gwen Pritchard Jones. R’on i am brynu hwn yn ol yn Ionawr, ond roeddwn wedi prynu llwyth o lyfrau yn barod. A rywsut, dwi ddim wedi mynd yn ol ato fo. Un i archebu o’r llyfrgell dwi’n meddwl. Ac os dwi’n mwyhau o, mae na un newydd…..gwelir rhif 6 islaw.........
6. Barato – hefyd gan Gwen Pritchard Jones.
7. Y Daith – Lloyd Jones. R’oedd hwn yn cael ei drafod ar Pethe, dwi’n meddwl (wel yn sicr cafodd ei drafod ar S4C a roedd cyfweliad a Lloyd Jones ond dwi ddim yn cofio y rhaglen…)
8. Un Ddinas, Dau Fyd gan Llwyd Owen. Ar ol darllen llyfrau eraill Llwyd Owen mi wn y bydd hwn yn dda, hefyd: un am dros y Dolig efalla?
9. Dangos fy Hun, Tudur Owen. Daeth yr awgrymiad yma o flog Bethan Gwanas: “Os ydach chi isio syniad am anrheg Dolig i rywun, mae hunangofiant Tudur Owen yn y gyfres Nabod efo llai o eiriau ond llwyth o luniau) yn werth ei gael, wir yr. Chwip o hanesion difyr ynddo fo. A lluniau hilêriys!” A dwi wedi mwynhau rhaglenni Tudur Owen
10. ? Felly awgrymiadau, os gwelwch yn dda, am rhif deg.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home