Ailddysgu

Thursday 1 December 2011

S4C -Byw yn ôl y Papur Newydd a pethau eraill

Dwi wedi mwynhau gwylio Byw yn ôl y Papur Newydd, sydd newydd orffen. Mae'r rhaglen yn dilyn yr un fformiwla llwyddianus a Byw yn ôl y Llyfr: y gyfres flaenorol: canolbwyntio ar wahanol elfennau o fywyd ar y pryd. Fel Byw yn ôl y Llyfr, mae’r gyfres hon yn ddiddorol, yn hwyl, a hefyd dwi wedi dysgu pethau am y cyfnod.


Yn y gyfres, mae Bethan Gwanas a Tudur Owen yn archwilio bywyd yn y dauddegau, trwy dilyn rhai o’r erthyglau o’r papurau newydd yr adeg. ‘Roedd sawl papur newydd Gymraeg ar gael: Y Brython, Y Darian, Yr Herald Cymraeg, Y Seren – a mwy. R'oedd y bennod olaf yn edrych ar bywyd y brif weinidog, Lloyd George, a’i ddylanwad. Dan ni’n dysgu bod y dauddegau yn gyfnod cythryblus i Lloyd George; bod ei berthynas a’i ysgrifennyddus yn creu stŵr, a hefyd bod y Torïaid, yn 1922, wedi profi ei fod wedi gwerthu anrhydeddau am arian. Ond er hyn, roedd y carfannau o fewn y wasg Gymraeg yn driw iddo fo. Aeth Tudur Owen i Lanystumdwy, lle gafodd Lloyd George ei eni, ac i’r amgudeddfa sydd yn dathlu ei fywyd, i gyfarfod a Twm Morris, bardd gyda diddordeb mawr mewn bywyd Lloyd George. Dywedodd Twm Morris bod Lloyd George yn cael ei gyflwyno fel y dyn enwocaf yn y byd pan aeth ar daith i America a Canada yn 1923.


Felly be dwi’n hoffi am y rhaglen yma? Wel, yn gyntaf, mae’r ddau gyflwynydd yn dda iawn – yn defnyddio Cymraeg da, cywir – ag eto yn ddealladwy. Fel dysgwraig, dwi’n dysgu geiriau newydd a patrymau sydd yn newydd i fi. Ac i fi, mae Cymraeg y Gogledd yn haws o lawer i ddallt na Cymraeg y De. Hefyd, mae’r ddau yn medru bod yn ddoniol, ac yn sicr mae nhw’n medru diddanu. Yr ail elfen ydi bod y rhaglen yn cynnwys dadleuon gyda arbennigwyr. Felly mewn rhaglenni eraill, dan ni’n clywed bod na ddim llawer o nofelau Gymraeg ar y pryd, yn rhannol, oherwydd dylanwed crefydd, a hefyd yn dysgu am technoleg, cludiau a ffilmiau yr adeg.


Ond does na ddim llawer dwi eisiau gwylio ar S4C ar y funud. Dechreuais gwylio Gwaith Cartref - ond r'on i'n methu dod ymlaen efo'r rhaglen. Roeddwn yn edrych ymlaen at weld gyfres newydd o Rownd a Rownd - dwi'n gwybod bod y ffilmio wedi digwydd - gwelais y criw yn ffilmio yn Sir Fon, yn yr haf. Ond, dydy'r gyfres newydd dim wedi digwydd. Mae Wedi Saith o dan y bywell - felly gobeithio ein bod ni'n cael rhaglenni da yn y dyfodol. Ond falle dim.

2 Comments:

At 5 December 2011 at 11:36 , Blogger neil wyn said...

Wnes i fwynhau'r cyfres yma hefyd. Rhaid i mi drio ddal fyny efo'r rhai dwi wedi eu colli. Gafodd babur newydd y Brython ei gyhoeddi yn Lerpwl os cofio'n iawn, yn ystod oes aur Cymry y ddinas dwi'n medwl.
Wyti wedi trio 'Sombreros'eto? cyfres newydd ar nos sul, dwi am wylio fo nes ymlaen ar Clic.
Dwi'n eitha mwynhau rhaglenni celfyddydau 'Pethe', sydd gan gyflwynwyr o'r gogledd hefyd:)

 
At 6 December 2011 at 23:34 , Blogger Ann Jones said...

Diolch am yr awgrymiad, Neil - wnai drio Sombreros. A wyt ti'n iawn am Pethe - mi fyddai yn gwylio fo ar Clic o dro i deo a mae rhai rhaglenni yn ddiddorol iawn.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home