Ailddysgu

Sunday 1 January 2012

Y Blwyddyn Newydd

Wel, dyma ni, a dyn ni ar fin mynd am dro i wneud dipyn o ymarfer ar ol gormod o siocolat a gwin, neithiwr, er ein bod wedi aros adref.

Felly, blog byr - ac wrth edrych yn ol, dwi'n gweld fy mod wedi postio 50 flog yn ystod 2011. Mae hynny dipyn yn fwy nac yn 2010. Ac i fod yn onest, dwi ddim yn meddwl fydd llawer mwy yn ystod y flwyddyn nesa. Dwi'n edmygu'r pobl sydd yn medru blogio yn aml, a sy wastad (wel bron wastad) efo rywbeth ddifyr i ddeud. Fel engraifft, dwi'n hoffi blogs Cath o Asturias - mae'r cymysg o nodiadau am yr ardd (mae hi'n tyfu bob fath o lysiau a ffrwythau), y cefn gwlad a'r bywyed gwyllt - a'r gwleidyddiaeth yn ddiddorol iawn i fi. Ond swn i byth yn medru cyfrannu at y blog bob dydd!

Dydd Mawrth, dwi'n mynd i Fangor i'r Ysgol Galan - er mi fyddaf yn aros yng Nghaernarfon. Mae'r ysgol Galan yn para am dri diwrnod, felly cyfle i siarad Cymraeg, bod yn lle Gymraeg, a gobeithio mi fyddaf yn gwella dipyn



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home