Ailddysgu

Monday 2 April 2012

Yn yr ardd: sychder


Mewn ychydig mi fydd waharddiad yn erbyn defnyddio peipen ddwr rwber yn yr ardd (neu unlle arall!) Does dim llawer o law wedi bod o gwbl - a doedd dim llawer llynedd chwaith. Felly mae'r pridd yn sych iawn erbyn hyn. Mae gennyn ni ddwy gasgen dwr yn yr ardd cefn, ond mae'r dwr ynddyn hhw wedi mynd ers dipyn. Felly dwi wedi bod yn trio defnyddio "mulch" lle mae o'n bosib. Hynny yw, unwaith mae'r pridd yn wlyb, rhoi rhywbeth arno fo i gadw'r lleithder i mewn. Felly dwi wedi arbrofi efo defnyddio papur newydd gwlyb a rhoi compost (o'r ardd) ar ben y papur newydd. Dwi wedi gwneud hyn hefo'r gwely garlleg - ond mi gymerodd eisoes! (A llawer o gompost!!) Ond mae o'n edrych yn dda - a. gobeithio bydd yn helpu.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home