Diolch i'n nhrwyn a Gwledydd Bychain
Fe brynais lwyth o lyfrau Cymraeg pan oeddwn yn aros yng Nghaernarfon yn Ionawr – y rhan fwyaf o siopau elusen. Dwi bron wedi gorffen eu darllen nhw – er fy mod rhaid i fi gyfaddef fy mod i wedi rhoi Petrograd i lawr – ar ôl ond darllen tua 50 tudalen. Ond dwi wedi bod yn darllen ac yn mwynhau “Diolch i’n nhrwyn” gan Rocet Arwel Jones. Llyfr am India ydy hwn: i fod yn gywir – dyddiadur am ei wyliau yn teithio o gwmpas Rajastan yn India. Mi es i India efo ffrind yn ôl yn 1980, ac er i drideg dau mlynedd mynd heibio ers hynny – a dipyn o amser ers i fi fynd yn ôl (yn 1981 ac yn 1985), mi ddaeth a atgofion yn ôl: stondinau ar y stryd yn gwerthu bob fath o fwyd; pryd o fwyd fendigedig yn Delhi; cael gwâdd I dy i cael cinio gyda'r teulu; llygoden fawr yn rhedeg ar draws yr ystafell a diflannu, wedyn dod yn ôl – pan oedden yn aros am tren yng nghanol y nos yn (Hen) Delhi – a teithio ar y trên am ddwy diwrnod i lawr i’r dde.
Dwi’n hoffi llyfrau teithio a dyddiadurau, ac ar ol gorffen y llyfr mi es i'n ôl i fath o ddyddiadur r'on i wedi mwynhau darllen a sydd yn berthnasol iawn i’r ddadlau diweddar am y Gymraeg: llyfr Bethan Gwanas “Y Gwledydd Bychain”. Os dach chi ddim wedi ei ddarllen, prynwch o. Mae o’n son am ei thaith i dair wlad bychan, sef Gwlad y Basg, Llydaw a Norwy. Mae hi’n cyfarfod a llawer o bobl diddorol yna, ac yn trafod sut mae’r ieithoedd yn cael ei trin yna hefyd – ac yn cymharu hyn a’r sefyllfe yng Nghymru. Felly dan ni’n dysgu bod siaradwyr Euskera, iaith y Basgwyr, wedi cynyddu ar ol bod yn isel – a bod miloedd ar filoedd o weision sifil wedi cael eu rhyddhau o’r gwaith am un neu ddwy flwyddyn i ddysgu Euskera heb colli cyflog yn ystod yr 80au a’r 90au. Anhebig iawn bod cynllyn fel hyn yn cael unrhyw croeso yn y seflyllfa ariannol presennol, ond wedi dweud hyn, mae gynlluniau eraill yn rhai fuasa’n bosib gwneud yng Nghymru heb gwario gormod o arian,fel Mintzapraktika lle mae grwp fach sydd yn rhannu diddordebau yn dod at eu gilydd i wneud gweithredau – cerdded, neu dringo, neu darllen neu beth bynnag – ond trwy gyfrwng Euskera. A mae’r grwp yn cynnwys un neu ddau siaradwyr rhygl. Dyna engraifft da o Gymdeithas Mawr, efallai.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home