Ailddysgu

Friday 16 March 2012

Llyffantod a penbyliau



Wel, ar ôl meddwl bod na ddim grifft eleni, edrychais yn y pwll dydd Sul diwethaf, a dyna lle roedd dipyn bach. Ond yn ddiweddarach yn yr wythnos, death mwy a mwy, ac erbyn bore dydd Iau, roedd digonedd yn y pwll a llyffantod hefyd fel gwelir yn y lluniau.

Ond yng Nghymru, mae grifft Bethan Gwanas wedi datblygu a mae pwll hi yn llawn o benbyliad rwan. Dwi’n gobeithio bydd rhai o’r wyau bach yn y grifft yn goroesi hefyd. Ond wrth sgwrs o’r miloedd a miloedd o benbyliaid, ond ychydig iawn sy’n tyfu i lyffantod.

Yn yr ardd dwi wedi body yn rhoi planhigion newydd asparagys i fewn, a mae’r planhigion mefys a phrynais ryw bythefnos yn ol bron yn barod i’w blannu – ond mae planhigion cabets yn y gwely ar y funud felly dwi’n gobeithio bidden nhw’n tyfu ac aeddfedu i mi gael tynnu nhw, bwyta nhw a cael lle i’r mefys. Roedd gwely mefus yn yr ardd, ond oherwydd bod gymaint o waith chwynnu a.y.y.b nes i dynu'r planhigion allan. Ond difaru nes i, a phrynu planhigion newydd; rhai sy'n ffrwytho yn gynnar a lleill yn hwyrach yn y tymor.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home