Ailddysgu

Friday, 9 March 2012

Y Gwanwyn, llyfrau newydd a'r rhaglen Heno


Un o'r arwyddion o'r gwanwyn dwi'n hoffi ydy gweld y grifft yn y pwll bach yn yr ardd. Fel arfer mae nifer o lyffantod yn dwad i'r pwll a mae cyffro mawr yn y dwr, ac o flwyddyn i flwyddn dwi'n cadw nodyn o'r dyddiad pan mae'r grifft yn cael ei ddodwy. Ond eleni, doedd dim grifft i'w weld erbyn dechrau mis Mawrth (llynedd roedd o yma ar y 26ed o Chwefror, a dechrau Mawrth y blwyddyn cynt). Es i edrych yn y pwll ac i glirio dipyn ar y dail yn y dwr a mi ddarganfais ddau lyffant wedi marw..... Does dim llyffant arall wedi dod, a felly does dim grifft eleni a bydd na ddim benbyliad chwaith, sydd yn drist. Wn i ddim beth sydd wedi digwydd. Efallai bod y cydbwys yn y pwll ddim yn iawn, ond dwi'n gobeithio bydd y llyffantod yn dod yn ol a bydd y pwll yn iach eto.

Dwi wedi cael ddau lyfr newydd yr wythnos hon. Un Gymraeg, Barato gan Gwen Pritchard Jones: llyfr sy'n dilyn Pieta. Llyfr mawr swmpus - a dwi ddim eisiau gorffen o rhy gyflym. Does dim byd arall ar y rhestr ar y funud - felly os oes gan rhywyn awgrymiadau, gad i fi wybod! A'r llyfr arall ydy un ar gyfer y cylch darllen, Before I go to Sleep. Mae hwn, hefyd, yn edrych yn dda.

Oes yn ol, roeddwn i (a pobol eraill) wedi synnu ar ol clywed bod Wedi Saith am orffen. Rwan dyn i'n gweld be sydd yn ei le. Dwi'n methu dallt pam mae rhaglen da fel Wedi Saith wedi gorffen ac yn ei le mae gennyn ni sothach. Mae o fel mae rhywyn wedi meddwl - dydi'r rhaglenni ddim digon 'sexi' a cyffrous. Felly dyn ni'n cael rhywbeth lle mae'r cyflwynyddion yn dweud jocs gwael wrth eu gilydd a giglan - ac yn dangos rwtsh. Mae siwr bod na ddim gobaith o gael Wedi Saith yn ol..................

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home