Ailddysgu

Sunday 26 February 2012

Dechrau'r gwanwyn yn yr ardd?



Mae'r tywydd yn fendigedig y penwythnos ymaf - a dyma fi efo ryw byg a dim yn teimlo'd ddigon da i fynd allan i'r ardd.........ond ddoe mi lwyddiais i blannu hadau ffa, ac i docio'r mafion (roeddwn wedi dechrau ond dim wedi gorffen). Sylwais wrth gwneud hyn bod y panas a oedd ar ol yn y ddaear yn aildyfu, felly dwi wedi palu nhw i fynny. Mae wedi bod reit gynnes am yr amser o'r flwyddyn, a mae'r crocysus yn denu gwennyn meirch gynnar. Mae fy mab hefyd wedi bod yn rhoi ochrau pren i'r gwlau llysiau - i gadw'r pridd a'r tail i mewn, felly mae na wely newydd sbon i'r tatws pan mae nhw'n barod i blannu..

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home