Mae'n amlwg bod gwastraff coffi yn
dda i'r ardd. Mae'r ffreuty gwaith yn rhoi'r gwastraff i bwy bynnag sydd eisiau cymryd bag yn rhad ac am ddim. Felly dwi wedi dod a bag adref a wedi ei roi ar y compost. Ond efallai byddaf yn trio ffyrdd eraill o ddefnyddio'r gwastraff coffi yn yr ardd. Mae'n bendant yn beth mwy wyrdd i ddefnyddio'r gwasgtraff coffi yn hytrach na taflu fo.
Dwi ddim wedi dechrau gweithio yn yr ardd o ddifri y flwyddyn yma eto. Dwi wedi dechrau glanhau y ty gwydr a wedi tocio rhai o'r planhigion mefus, ond gyda'r tywydd oed (a llwyd) diweddar, dydi'r tywydd ddim wedi bod yn addas i wiethio ynddi hi.
Ond heddiw, r'oedd yn ddiwrnod ardderchog - er ei fod yn oer. A mae'r letys wedi dechrau tyfu (planhigion bach, bach, bach) yn osgystal a'r planhigion salad a chafodd ei ddechrau yn yr Hydref hwyr yn dechrau tyfu'n dda rwan.
Dwi wedi gorffen y ddau lyfr r'on i'n darllen - a'r ddau yn dda iawn, yn enwedig Pwll Ynfyd. Dwi'n edrych ymlaen am y llyfrau nesa am y brif gymeriad.
1 Comments:
Wnes i fwynhau Pwll Ynfyd hefyd:)
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home