Yr iaith
Mae na dipyn o ddadl wedi bod yn ddiweddar ynglyn a'r iaith yn dilyn adroddiad ein bod ni'n colli 3,000 o siadawyr Cymraeg bob blwyddyn. Dwi'n cytuno'n llwyr efo Bethan Gwanas am yr angen i gynorthwyo'r rhai sydd yn dysgu Cymraeg wedi symud i Gymru. Ond weithiau dan ni'n anghofio, braidd, pa mor annodd ydy dysgu iaith newydd. Dwi'n cofio dysgu Eidaleg efo fy ngŵr, gyda gwersi nos unwaith yr wythnos. Un peth a wnaeth wahaniaeth oedd treulio bythefnos yn yr Eidal yn dysgu mewn ysgol iaith ac aros gyda teulu lleol - lle roedd neb yn siarad Saesneg. Yn anffodus, mae ddylanwad y Saesneg, a'r ffaith bod pob Cymro a Cymraes yn medru siarad Saesneg yn gwneud dysgu Cymraeg yn annoddach. Felly mae cwrsi preswyl a dwys yn bwysig yn fy marn i. Hefyd, mae statws dysgu ieithoedd yn gyffredinol yn y wlad hon yn isel iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl gyda Saesneg fel ei hiaith gyntaf dim ond yn medru siarad Saesneg - a dydi'r ffaith bod dim rhaid i ni ddysgu iaith arall yn yr ysgol dim yn helpu llawer, chwaith. Un peth dwi ddim wedi clywed amdani yn y dadl hon yw'r ffaith bod dysgu un iaith arall yn help mawr i fynd ymlaen i ddysgu ieithoedd eraill. Dwi'n sicr bod fy ngwybodaeth o Gymraeg (er iddo fod yn fregus, braidd) yn help fawr pan ddechrais i ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol - a mae ymchwil yn dangos y fanteision o fod yn ddwyieithog hefyd. A mae'n amlwg bod dysgu iaith yn beth dda i helpu atal dimentia. Felly mae na rhesymau eraill dros dysgu Cymraeg hefyd!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home