Ailddysgu

Sunday 18 March 2012

Cwrs Undydd Cymraeg

Mi gefais amser dda yn yr ysgol undydd yn Llundain ddoe. Fel arfer ‘roeddwn yn adnabod sawl person sydd wedi bod ar y cwrsiau yndydd o’r blaen, yng nghynwys Julia – a oedd y person cyntaf a chyfarfais wedi penderfynu ailddysgu Cymraeg. Roedd Julia yn mynd i ysgolion prenwythnos yn y Feni, pan oedd y canolfan oedolion preswyl ar agor – The Hil - a’r tro cyntaf es i, ar y nos Wener, cyfarfais a Julia yn y bar. Dros cinio ddoe, roedd Julia, Miranda a fi yn hel atgofion cynnes am ddysgu Cymraeg yn y Feni.

Roedd tiwtor ni ddoe, yn newydd i fi – a trefniant y rhan fwyaf o’r dydd oedd gwersi lle roedden yn gweithio mewn grwpiau bach. Un o’r tasgau oedd penderfynu a ddylen ddefnyddio a neu ac – neu â/ag i lenwi bylchau mewn brawddegau. Rhyfedd, gan fy mod i wedi sgwennu am y trafferth mae’r geiriau bach yma wedi achosi o’r blaen. Ond hyd yn oed ar ol gwneud llawer o Gymraeg, mae pethau bach yn medru eich baglu – fell darganfod lluosog gair, hefyd. A dyna tasg arall a gawsom: a hefyd gwella Cymraeg, defynyddio’r amhersonol a gweithio ar cywair ffurfiol hefyd, felly ymarferion ddefnyddiol iawn. Roedd y gwersi yn dda iawn.

Mae na wastad ganu ar ddiwedd y dydd. Ond ddoe roedd darlith hefyd ar Santesau Cymru (yn Saesneg) Diddorol. A dwi'n meddwl fy mod am ymuno a'r Clwb Darllen LLundain a fydd yn cyfarfod yn Ebrill. Dwi wedi darllen y llyfr, ond amswer maith yn ol. Felly bydd rhaid ei ailddarllen o.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home