Ailddysgu

Friday 31 August 2012

Arbrofion


Ers i fi cael fy nyrchafiad i gogyddes y tŷ (dros tro tra mae ysgwydd fy ngwr yn gwella) dwi wedi bod yn arbrofi gyda sawl ryseit newydd, yn enwedig rhai efo cynwhsion o’r ardd.  Dwi wedi mwynhau salad gyda nionod gwanwyn, afocado a courgettes mewn saws gyda coriander, tshili a garlleg (o’r llyfr Green Seasons  gan Rachel Demouth, sy’n rhedeg ysgol coginio a tŷ bwyta yn Bath).  Heno dwi wedi trio ryseit Groeg o’r enw “Fasolakia“.  Mae ’na sawl ryseit ar y we, i gyd gyda nionod, tomatos, garlleg a ffa  fel hon.   Mi rhois tatws (wedi ei coginio) i fewn a dipyn o caws ffeta arno fo cyn bwyta a r’oedd yn flasus iawn.  Ond does dim llun dda ohonno fo.

Mae’r tomatos yn y tŷ gwydr wedi gwneud yn dda iawn, a dros y penwythnos hir, mi wnes saws gyda tomatos wedi ei rostio - sydd i gyd yn y rhewgell ar gyfer y gaeaf.  Dyma nhw cyn rostio.
Ac un arbrawf olaf ydy gwneud bwyd efo llysiau’r cwlwm (Comfrey).  Mae’r planhigyn hon yn llawn o faetholion, ond er fy mod wedi tyfu llysiau’r cwlwm am flynyddoedd

dwi ddim wedi defnyddion hi llawer.  Felly dwi wedi torri’r dail a rhoi nhw mewn piser i adael nhwn torri i lawr.  A ddyle’r hylilf sy’n dod allan yn dda iawn (ar ol ei wanedu) ar gyfer bob fath o blanhigion.  Gawn ni weld!

2 Comments:

At 6 September 2012 at 15:03 , Blogger Wilias said...

Rydw i wedi mwydo dalan poethion mewn dwr hefyd eleni. Dyma'r tro cyntaf imi drio hynny, amser a ddengys ydi o'n werth yr ymdrech. Wyt ti'n gwybod faint fydd angen ei 'dilutio'?

 
At 10 September 2012 at 22:29 , Blogger Ann Jones said...

Dwi ddim wedi trio dalan poethion eto - syniad da - darganfais patsh mawr yn agos iawn pan oeddwn yn chwilio am fwyar duon. Ond mae'r tudalen wefan isod yn awgrymu 1:10 - nes ei fod yn lliw te http://www.nettles.org.uk/nettles/activities/nettlemanure.asp

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home