Ailddysgu

Sunday 12 August 2012

Ymweliad i'r Eisteddfod


Yn y diwedd roeddwn yn yr Eisteddfod am amser fyr: cyrhaeddais yn y prynhawn hwyr ar ddydd Llun a gadewais amser cinio dydd Mercher.  ’R on i’n bwridadu aros am ychydig o ddiwrnodau, ond ers i fy ngŵr dorri ei ysgwydd, ryw fis yn ôl, dydi o ddim yn medru gnweud llawer, fel coginio, siopa neu cerdded y ci, felly doeddwn i ddim eisiau bod i ffwrdd rhy hir.  Ac ar ol siwrna hunllefus, cyrrhaeddais pedwar awr yn hwyrach na ddylwn i.  Serch hynny, mwynhais fy hun, er iddi hi fwrw trwy’r dydd, dydd Mawrth.  Arhosais ym Maes D am y ran fwyaf o’r dydd felly, lle roeddwn yn cymryd rhan mewn cyflwyniad ar “Ddarpariaeth i ddysgwyr arlein“, wedi trefnu gan Gareth Thomas.  Roeddwn i’n siarad am Byd y Blogiau - a sut mae (darllen a sgwennu) blogiau  yn gallu cyfrannu at eich ddysgu (yn fy nhyb i).  Dwi erioed wedi gwneud cyflwyniad yn Gymraeg, ond dwi’n meddwl ei fod o’n iawn, a mwynhais y profiad.  Yn y prynhawn, arhosais ym Maes D i weld Seremoni te Siapaneiadd gyda Kiyo Roddis, sydd yn dod o Siapan ac erbyn rŵan mae ei Chymraeg yn ardderchog.

Mi es i lawnsiad ybont hefyd, ar bore Fercher: “Platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion.“ Mae o’n edrych yn dda iawn a chawsom flas bach ar un o’r adnoddau ar gyfer ddysgwyr: stori fer (a doniol) gan Bethan Gwanas - a oedd yn darllen stori roedd hi wedi sgwenny ar gyfer ddysgwyr.  Gwych.

Does dim llyniau da gen i, ond llyniau ar yr iPhone - ond dyma un o Kyio yn paratoi am y Seremoni te Siapaneiaidd

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home