Pigion o'r ardd ac o'r gegin
O’r diwedd, rydym wedi cael bron diwrnod cyfan o haul heddiw, a dwi wedi bod yn yr ardd yn cynaeafu, yn dyfrio yn y tŷ gwydr ac yn trio cael rywfaint o drefn ar ardd sydd wedi mynd braidd yn fler, gyda llawer o chwyn a byddinoedd o falwod a gwlithenni. Ond wedi dweud hyn, ac er bod rhai o’r llysiau a’r ffrwythau wedi bod yn siomedig eleni, mae rhai pethau wedi gwneud yn ddigon da, fel y betys - a gafodd ei goginio mewn Borscht fel gwelir yn y llun.
Mae’r tatws hefyd yn gwneud yn iawn, a’r ffa llydan, ac wrth gwrs y mafon. Mae o wedi bod yn anodd casglu’r mafon gyda gymaint o law. R’oeddwn am ei gasglu ddoe ond erbyn y prynhawn, roedd hin stidio bwrw eto. Mae’r ciwcymber un gwneud yn iawn yn y tŷ gwydr hefyd, a’r tomatos yn tyfu ac yn ffrwytho, ond pwy a ŵyr os bydden nhw yn aeddfedu?
A dyma ychydig o luniau o flodau o gwmpas yr ardd: rhai yn denu'r gwenyn fel gwelwch!
Er bod llawer o waith i'w gwneud yn yr ardd, y peth gorau ydy canolpwyntio ar y pethau sydd yn llwyddo ac yn edrych yn dda, ac anwybyddu'r llefydd sydd angen gwaith am y tro.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home