Ailddysgu

Wednesday 18 July 2012

Gwenyn, gwair a glaw


Dwi wedi bod yn darllen y llyfr “ The Bee Garden” gan Maureen Little am sut i ddenu gwenyn I’r ardd.  Mae gen i lawer o flodau a phlanigion yn barod sydd yn dda i gwenyn: e.e. perlysiau fel comfrey, a borage; ffrwythau fel mafon (mae blodau’r mafon yn ffefryn) a blodau fel bysedd y cŵn, lafant a llawer eraill.  Ac wrth gwrs, mae blodau gwyllt yn dda iawn - yn ôl Gwilym ar Byw yn yr Ardd wythnos yma, dant y llew ydy’r gorau.  Fel arfer dwi’n tynnu dant y llew allan - ond efallai wnai trio adael o yn llonydd.  Yn ôl y llyfr, mae’n bosib cadw fo dan reolaeth.


Mae’n amlwg bod gwair yn bwysig i bryfed gwahanol hefyd. Ac ar ôl darllen y llyfr (wel, dwi ddim wedi gorffen eto...) dwi wedu sylwi bod y comin lleol yn llawn o weiriau a blodau gwahanol.  A mae’r glaw i gyd wedi gwneud y gwair tyfu’n uchel, gyda lliwiau gwahanol hyfryd.  Ond mae’r tywydd oer a gwlyb wedi cael effaith ar y planhigion ac yr annifeiliaid yn yr ardd hefyd.  Mae o’n un ffordd o ddarganfod beth sydd wir angen yr haul - a be sydd yn ymdopi (neu yn hoffi) tywydd sydd braidd y oer ac yn wlyb.  Felly, er enghraifft, mae’r mafon a’r ffa yn gwneud yn iawn, a hefyd y ffrwythau fel y cyrens coch a du, a’r gwsberen.  Ond dydi’r courgettes ddim yn hapus o gwbwl.  A mae rhai o’r adar wedi drysu hefyd.  Dyma llun o’r fywalchen sydd ar ei nyth ar y funud - er bod y fwyalchen yn nythu yn gynnar yn y flwyddyn fel arfer.

2 Comments:

At 18 July 2012 at 14:30 , Blogger Wilias said...

Y llyfr yn swnio'n ddifyr iawn; am holi amdano yn y llyfrgell.
Mae'r courgettes gen' i yn anobeithiol hefyd. Fel chi, mae'r ffrwythau meddal yn gwneud yn iawn yma, ond y coed ffrwythau yn dioddef o oerfel neu ddiffyg peillio. Roedd y goeden afal enlli a cheiriosen morello yn llawn blodau, ond ychydig iawn o ffrwythau sydd arnynt. Nid oes un afal croen mochyn yn dod, a dim un eirinen Ddinbych 'chwaith.
O wel, efallai 2013!

 
At 19 July 2012 at 07:17 , Blogger Ann Jones said...

Diolch am y sylw, Willias. Dwi'n meddwl bod y llyfr gwerth darllen. Mae rhaid cymryd beth bynnnag mae'r tywydd yn tafly arnon ni yn yr ardd yndoes? Ond fel - a fel rhai chi, mae ein coeden afalau yn anobeithiol eleni - heblaw yr un gynnar sydd ar y wal (ond dim wedi aeddfedu eto) a hefyd mae rhai o'r Bramleys yn olew. Ond fel dach chi'n deud mae wastad blwyddyn arall..........

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home