Ailddysgu

Tuesday 10 July 2012

Yn Ôl i Leifior: ailddarllen a mwynhau


Dwi wedi gorffen darllen hwn yn ddiweddar, a dwi mor falch fy mod i wedi ei ddarllen - ailddarllen - ddylwn i ddweud, oherwydd dwi wedi ei ddarllen o o’r blaen - ond doeddwn i ddim yn cofio llawer ohonno fo.  Mae’r llyfr yn dilyn Cysgod y Cryman, wrth gwrs, ond yn fy marn i, mae o’n llyfr gwell.  Efallai bod ysgrifennu yr awdur wedi aeddfedu dipyn - cafodd y lyfr ei gyhoeddi yn 1956, tri mlynedd (dwi’n meddwl!) ar ôl Cysgod y Cryman.  Mae’r stori yr un mor gyffrous, ond mae’r cymeriadau yn llai du a gwyn yn y llyfr yma.  A ’falla bod Islwyn Ffowc Elis yn cydnabod hwn, achos, ynglyn Karl, mae sgwrs diddorol (tudalen 258 yn fy nghopi i) lle mae Harri yn siarad â Karl:
“Ffyt!“ ebe Harri. “Mae’n dda genny weld arwydd o hunan ydoch chi o’r diwedd.  ’Rydech chi’n rhy felltigedig o dda.  Petai rhywun yn eich rhoi chi mewn nofel fe ddwedai’r adolygwr eich bod chi’n anghredadwy.  Fe fydde’n rhaid i’r nofelydd druan eich pupuro chi â thipyn o ffaeledde i’ch gwneud chi’n debyg i gig a gwaed.“

Mae llawer o ddadla ynglyn ffydd, a mewn un ffordd, roedd y rhain ddim mor ddiddorol i fi, ond, r’oedd y ffordd roedd IFE wedi sgwennu nhw yn gwneud argraff mawr aran i.  ’R oedd yn weinidog, yn ddyn grefyddol, ac eto mae ymresymiad Harri, sydd wedi colli ei ffydd, yn gredadwy iawn.  Elfen arall â sylwais arno, ydi bod rhai o’r merched yn wleidyddol.  Yn y llyfr cyntaf, merch sydd yn cyflwyno Harri i gomwynyddiaeth, ac y yn y llyfr hwn, mae Greta yn ymuno a Plaid Cymru.  Mi fawn i’n meddwl bod hwn yn beth anghyffredin i sgwennu mewn nofel Gymraeg a chafodd ei gyhoeddi yn 1956?

Dydi o ddim yn bosib roi flas go iawn ar y llyfr yma, ond yn wir, mae o’n haeddu cael ei ddarllen.  Y peth mwyaf drawiadol, i fi, ydi bod y sgwenu ddim yn teimlo fel ei bod yn  hen o gwbl.  Wrth gwrs, mae’r cymeriadau yn defnyddio “chi“ - hyd yn oed pan mae nhwn’n ffrindiau mawr, mae’r llyfr yn cynnwys geiriau sydd bron wedi diflannu o’r iaith (fel “ebe“), a geiriau eraill doeddwn i ddim yn deall, ond mae o’n fywiog, a’r deialogau yn gredadwy iawn.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home