Dyma llun o’r comin ar ol
torri’r gwair. Mae rhan o’r cae yn cael ei adael: y rhan lle mae’r cudyll
coch a’r tylluan wen yn hela ac eleni mae’r tylluan wedi bod yn nythu ar
y comin a dyn ni’n edrych ymlaen at gweld y cenhedlaeth nesa!
Er fy mod i wedi methu
blogio cyn gymaint a faswn i’n licio, dwi wedi bod yn brysur yn yr ardd, a mae
gennyn ni ddigonedd o bethau i fwyta yn cynwys datws (er eu bod wedi cael
haint, rŵan, y “blight”), tomatos, ffa dringo Ffrengig, a ffa
Ffrengig bach, betys, sbigoglys, courgettes, (wrth gwrs), tomatos,
ciwcymbr, mafon, eirin, afalau a mefys – er bod y mefys ar ei flwyddyn gyntaf a
felly does dim gymaint o’r rheiny. Felly mae ’na waith wedi bod hefyd yn
paratoi pethau fel y ffa i fynd i’r rhewgell ar gyfer y gaeaf, a mae’r mafon yn
rhewi yn dda hefyd. Ond y rhan fwyaf o’r amser dyn ni’n bwyta’r llysiau
a’r ffrwythau fel mae nhw.
Un peth arall dyn ni’n
gwneud ydy rhoi’r cynnyrch i ffrindiau a.y.y.b a hefyd ffeirio rhai o’r
cynnyrch. Dwi wedi sôn o’r blaen fy mod I’n tyfu digon o giwcymbr i roi
rhai i’r siop llysiau lleol – a wedyn dwi’n cael ŵyau, neu bananas, neu beth
bynnag. Ond neithiwr, aethom i dafarn The Bear and Bell, sydd ryw 4 filltir I
ffwrdd a sy’n coginio bwyd gwych. Rhywle arall fasa bwyd fel hyn yn ddrud
iawn, ond dydy o ddim, a mae nhw’n defnyddio gymaint o gynnyrch lleol a fedran
nhw. Ond ystafell bach sydd gennyn nhw, a neithiwr roedd y bwyd yn
ardderchog. Ond ryw bump peth sydd ar y bwydlen, yn cynnwys o leia un
peth llysieuwr. A dyna be ges i neithiwr – Kiev o “chickpeas
and Mediterranean vegetables” a r’oedd o mor dda. Hefyd, mae
nhw’n gofyn i chi ddod a llysiau neu ffrwythau o’r rhandir neu’r ardd os
gennych chi ddigonedd – a wedyn mae nhw’n, rhoi disgownt ar y bwyd (neu ar y
cwrw). Mae nhw hefyd yn gwerthu seidr wedi ei gwneud o afalau lleol.
Mae llefydd fel hyn yn
ysbrydoliaeth. Mae’n bwysig cefnogi nhw a hefyd siopau lleol os dyn ni
eisiau ein strydoedd mawr (? high streets) i barhau. Dwi’n trio
prynu’n lleol cyn gymaint a sy’n bosib. A mae gennyn ni siop newydd, rhyw
dair filltir I ffwrdd.
Rhan o Camphill; cymuned i bobl efo
anablau dysgu, ydy hi, a mae hi’n cynnwys caffi, a theatr
bach. Mae’r cymuned yn tyfu llysiau a ffrwythau, ac yn gwneud pethau
blasus o’r cynnyrch hefyd, fel surop cyrens duon.
Yn ddiweddar mae nhw wedi agor siop bach, sy’n gwerthu eu cynnyrch a hefyd
pethau eraill “eco” a crafftiau.
Ac
I orffen dyma llun un o’r teithiau cerdded lleol, ger yr afon, lle tangnefeddus
a distaw.
Dwi’n temlo’n lwcus iawn cael llefydd fel hon yn agos i fi.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home