Mae o wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Mae'r gwaith yn wallgo, a dyn ni wedi cael pobol yn aros dros dau benwythnos o gwmpas y Jubilee - a wedyn dydd Sadwrn diwethaf y cwrs undydd Cymraeg yn y Ganofan yn Llundain.
Ond mae o'n bwysig cymryd hoe bach tyndi? A neithiwr a'r noson cynt, fues i'n crwydro o gwympas yr ardd efo'r camera, a fel welwch chi, mae rhan o'r ardd yn edrych yn hardd iawn. Hefyd mae o wedi bod yn braf beicio i'r gwaith, a cael sbec ar garddi pobl eraill ar y ffordd. A dwi'n falch fy mod i wedi mwynhau'r ddau diwrnod o haelwen, achos dyn ni wedi cael cawodydd trwm heddiw a mae'r ardd o dan gymylau du heno.
Dyn ni i ffwrdd y penwythnos yma - a wedyn yn ol dydd Llun, mewn amser i fi fynd i'r Clwb Darllen Llundain i drafod Cysgod y Cryman. Do, mi wnes i orffen on, a ei mwynhau. Ond mwy am hynna tro nesaf.
Labels: Cymraeg yn Llundain, Cysgod y Cryman, yn yr ardd
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home