Ailddysgu

Monday 18 June 2012

Cwrs Undydd Cymraeg a Crwydro o Gwmpas Kings Cross



Mi fues i ar y cwrs undydd Cymraeg dydd Sadwrn diwethaf yn y Ganolfan.  Diwrnod da iawn fel arfer.  Ar wahan i gael cyfle i ddysgu lawer o eiriau newydd  a sgwrsio yn y Gymraeg, hefyd mi es a lwyth o lyfrau gyda fi, ar gyfer ffeirio llyfrau.  Mae'r llun yn dangos y rhai sydd wedi mynd.  Mwy o le ar y silffau felly!

Ar ol y cwrs mi gyfarddais a ffrind a aethom o gwmpas y datblygiad newydd wrth yml a ty ol i King's Cross.  Mae o'n ddiddorol iawn - gyda llefydd agored, a hen adeiladau diwydiannol wedi cael bywyd newydd yn arddangos celfi o wahannol fath.  Hefyd, mae llawer o llecynau cymunedol - fel un perllan fach, a digon o lecynau lle mae llysiau yn cael eu dyfu.  Ond efallai y gorau oedd y wal fyw.  Mae waliau byw yn trendi iawn ar y funud - a os dwi'n cofio'n iawn (o'r teledu...) r'oedd un fawr iawn yn y Chelsea flower show eleni.  Ond doeddwn i ddim wedi cymryd llawer o ddiddordeb i ddweud y gwir.  Ond pan welais i un ar y stryd yn yml iawn i'r reilffordd, r'oedd o'n hardd iawn, a digon syml.  Dwi ddim yn siwr bof y llun a dynnais ar yr iPhone yn dangos o'n iaww,  Yn sicr, mi fyddai'n mynd yn ôl i gael spec arall yn yr ardal.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home