Ailddysgu

Monday 10 September 2012

Gerddi Eraill


 Dwi wedi sôn am y cymuned lleol, Camphill, o’r blaen.  Cymuned i bobl ifanc gyda anablau dysgu, lle mae nhw’n byw  a gweithio yn weddol anibynnol, ond gyda cefnogaeth y gymuned, gweithwyr a gwirfoddolwyr.  Mae nhw’n cynnal dydd agored bob blwyddyn a dwi’n mynd pan dwi’n medru.  A dyna beth oedd yn digwydd pnawn Sadwrn.  Felly cyfle i cael ymweliad bach i’r siôp, a gweld pa gynnyrch oedd ar gael.  Yn anffodus, doedd dim o’r surop mafon ar gael (bydd rhaid i fi ddarganfod sut i wneud o fy hun, rywdro).  Ar ol te a chacen, ac ymweliad i’r stondin llyfrau, crwydrais o gwmpas yr ardd:  y ran fwyaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu llysiau a ffrwythau, yn cynnwys ddau dwnnel polythen mawr a tri tŷ gwydr, a hefyd perllan twt a ffrwythlon.  ’Ron i’n hoffi’r ffordd mae’r blodau haul yn tyfu ar ochr y ffrwythau mefal - syniad da.  Edrych yn dda ac yn denu’r gwenyn.  Mae'r llysiau yn wych, hefyd - fel y pupurau yma.



Dwi hefyd wed bod yn tynny llyniau o’r ardd yn y gwaith, yn enwedig yr ardd newydd, gyda planhigion tal a gwahanol rywiau o lawselltau, sydd wedi bod yn fendigedig trwy’r haf.  Mae’n bleser mynd i’r gwaith i weld sut mae’r ardd yn dod ymlaen!



2 Comments:

At 11 September 2012 at 13:38 , Blogger Wilias said...

Be ydi'r blodau trawiadol yn y llun olaf?

 
At 14 September 2012 at 23:07 , Blogger Ann Jones said...

Dwi'n meddwl mae fath o Sedum ydyn nhw. Dwn ni'm pa fath, ond dwi edi trio cymryd toriad (? cutting? a gawn ni weld os ydy o'n llwyddo

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home