Ailddysgu

Sunday 6 January 2013

Yr Ysgol Galan ym Mangor – rhan un (Ionawr y trydydd)



Roeddwn ym Mangor wythnos diwethaf yn yr Ysgol Galan dydd Iau a dydd Gwener - dyma be sgwennais ar ddiwedd dydd Iau......

Wel, dyma fi ar ddiwedd y diwrnod gyntaf o'r Ysgol Galan, a waeth i fi gyfaddef  - wn i ddim os ddylwn i sgwennu diwrnod gyntaf neu diwrnod cyntaf... A dyna sut mae  hi trwy'r amser.  Ond dwi'n meddwl fy mod i'n gwella.  Ysgrifennu ydy'r peth anodda (dwy ’n’ neu un yn anodda tybed? Mi wn, o'r diwedd, bod dwy ‘n’ yn ysgrifennu a hefyd mi wn mai dwy ‘n’ ydy o a dim dau ‘n’ felly mae rhaid fy mod i'n dysgu rywfaint!!)

Roedd heddiw yn ddiddorol.  Dyma'r trydydd amser i mi ddod i'r cwrs.  Llynedd a'r blwyddyn cynt Eleri oedd y tiwtor, a mae hi'n dda iawn.  Eleni, Nia ydy'r tiwtor.  Dwi ddim wedi cyfarfod â Nia o'r blaen ond hi ydy fy nhiwtor ar y cwrs Maestroli, felly mae’n ddiddorol cael cyfarfod â hi o'r diwedd, a dwi'n siwr ei bod hi yn gwybod digon am fy ngwendidau.  Beth bynnag, dechreuodd y dydd gyda digon o gyfle i siarad, sydd yn beth ardderchog, gyda gofyn i ni drafod, mewn parau, am pethau yn y newyddion llynedd.  Rhywbeth digon syml ond effeithiol iawn.  Wedyn ymlaen i ymarfer geiriau benywaidd a gwrywaidd, hynny yw, penderfynu os oedd geiriau arbennig yn benywaidd neu gwrywaidd, ac yna trafod ffyrdd o gofio.  Eto, rhywbeth syml, ond effeithiol iawn.  Dydy hyn ddim yn meddwl na fyddwn yn gwneud camgymeriadau yn y dyfodol, ond dwi'n cael mwy yn gywir nac oeddwn i!  

Dwi ddim am sôn mwy am y cwrs ar y funud.  Roedd yr holl ddydd yn dda iawn. A heno mae tiwtorial adolygu ar gyfer yr arholiad lefel A dwi am sefyll yn yr haf.  Felly, mae angen cael y bws i Lanfair PG yn Sir Fôn. Dwi'n gobeithio efallai bydd rhywyn yn medru dod a fi yn ol i Fangor neu Gaernarfon.  Os ddim bydd rhaid i fi adael yn gynnar.  A lle tywyll iawn ydy Llanfair PG gyda'r nos.

Ond yn y cyfamser dw wedi bod yn crwydro ym Mangor, yn prynu ambell i lyfr Gymraeg; yn mynd a ambell i lyfr Cymraeg i Oxfam ac yn yfed coffi.  A dyna ffordd dda i ymarfer siarad Cymraeg os oes angen.  Mi gefais sgwrs hir a difyr efo dynas yn y caffi nad oeddwn erioed wed gweld o'r blaen - a'r un peth ar y bws bore ma.  Felly os ydych i angen ymarfer eich siarad, peidiwch a cymryd y car, ond ewch ar y tren neu y bws, ewch i gael coffi neu te - a byddwch yn barod i siarad gyda pwy bynnag sy'n fodlon!

2 Comments:

At 7 January 2013 at 08:09 , Blogger Rhys Wynne said...

Felly os ydych i angen ymarfer eich siarad, peidiwch a cymryd y car, ond ewch ar y tren neu y bws, ewch i gael coffi neu te - a byddwch yn barod i siarad gyda pwy bynnag sy'n fodlon!

Cyngor da iawn!

Bues i'n astudio ym Mangor rhwng 1996 a 1999 - mae'n siwr bod y dre wedi newid lot. Mae fy hen neuadd breswyl (o'r enw 'Eryri'), a oedd ar fin cael ei 'condemnio' pan o'n i yno oherwydd ei gyflwr ofnadwy bellach yn gyfleusterau aros a bwyty ffansi ar gyfer yr Ysgol Fusnes.

 
At 7 January 2013 at 12:55 , Blogger Ann Jones said...

Diolch am dy sylw. Ydi, dwi'n meddwl bod Bangor wedi newid llawer. Ofn dweud - yn yr Ysgol Fusnes roedden ni'n gwneud y cwrs - a chefais fy nghinio yn y bwyty ffansi!!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home