Doedd dim pleser bod allan gyda’r ci heddiw. Pobman yn lyb ofnadwy – ond dan ni’n lwcus bod na ddim llifogydd sy’n bygwth tai fan hyn, er bod llawer o’r comin o dan dwr. A dyma ni ar Noswyl Nadolig, a dwi wedi treulio’r pnawn yn paratoi bwyd . Mae rhai pobl yn drefnus iawn, ac os bosib dwi yn gwneud pethau o flaen llaw – one mae o wedi bod yn amser brysur iawn, a dwi ddim mor drefnus a hynny! Felly, er bod un pryd o fwyd wedi ei baratoi ac yn y rhewgell, a saws wedi ei gwneud gyda’r cranberries, roeddwn eisio gwneud treifl gyda’r mafon o’r rhewgell, jeli cwrans coch, sausage rolls, a mins peis. Ond mae popeth yn cymryd mwy o amswer na dwi’n disgwyl. Ond erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf wedi ei gwneud. A dwi’n cael hoe bach cyn mynd ati i wneud y mins peis.
Felly mae rhai o’r ffrwythau o’r ardd wedi cael ei ddefnyddio: yn y jeli cwrans coch, neu yn y treifl new mewn saws. Roedd y jeli’n cymryd mwy o amswer nag oedden i’n gobeithio – ond mae o’n edrych a blasu yn dda.
Ac unwaith dwi wedi gorffen coginio, dwi’n edrych ymlaen at bwyta’r bwyd yfory, ymlacio, a darllen fy llyfrau newydd dros y dyddiau nesaf. Mwy am hynny mewn blog dyfodol, efallai, yn y cyfamser – Nadolig Llawen.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home