Ailddysgu

Friday, 28 December 2012

Ailgylchu coed a bwyd Nadolig o’r ardd


Dan ni wedi colli tair coeden yn ddiweddar. Ar ddechrau’r blwyddyn hon, yn sgil y gwyntoedd cryfion, syrthiodd pren ceirios yn yr ardd ffrynt pan oeddwn ni i ffwrdd ym Mangor ar y cwrs Galan.  Cyn hynny roedd llarwydden wedi marw yn y cefn, ac am rhyw reswm, bu farw coeden bedw yn y cefn yn y Gwanwyn.  Mae’n trist colli coed, ond mae nhw i gyd yn cadw ni yn gynnes rwan ar y stöf llosgi pren (wood burning stove? - oes geriau gwell?)




Dwi wedi mwynhau bod ar fy ngwyliau o’r gwaith dros y Dolig, ond mae o wedi bod yn amser brysur hefyd, gyda’r teulu yma ar diwrnod Nadolig - a ffrind a ddaeth i aros diwrnod San Steffan.  Er bod na ddim llawer o gynnyrch ar gael o’r ardd, (neu’r tŷ gwydr) rŵan, dan ni wedi gwneud yn eitha da, gyda defnyddio’r rhewgell hefyd.  Dyma’r olaf o’r pupurau coch.  Am arbrofiad, gadwais y blanhigyn i weld os fydd y ffrwyth ola yn troi’n goch - ac o’r diwedd dyna beth wnaeth o (gwelir islaw).  A ddefnyddiais y pupurau mewn quiche gyda caws cryf Eryri.  Blasus iawn.




Roedd jyst digon  o ddail yn y ty gwydr i gael salad I fynd gyda’r quiche. A mae na ddigon o mafon hefyd – ag wrth gwagu rwyfaint ar y rhewgell, sylwais bod na ddipyn o eirin ar ol – sy’n gwych, achos dwi’n hoff iawn ohonnyn nhw a roeddwn yn meddwl bod nhw I gyd wedi gorffen.

Heno, ddefnyddiais cennin o’r ardd i fynd i pei efo beth oedd ar ol o’r twrci, a mae’r “nut roast“ a wnes i ar gyfer dydd San Steffan yn cynnwys cnau’r colleen yn y gardd gerila.  Ond rŵan dwi wedi laru braidd ar goginio am dipyn.  Mae Helen fy ffrind wedi gadael, a dwi am ymlacio dipyn – darllen a gwylio teledu – a wedyn dal i fynny efo ychydig o waith yn y tŷ.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home