Ailddysgu

Thursday 10 January 2013

Cyfyng-gyngor



Wel mae fy ngwaith ar gyfer yr arholiad wedi dechrau o ddifri rŵan - a dwi’n gweld ei fod am gymryd dipyn o amser.  Gobeithio fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir!  Dwi wedi ymarfer dipyn a’r sgwennu ffurfiol gan ddefnyddio hen bapur.  A dwi wedi gwneud amserlen i fy hun.  Felly popeth yn iawn - ond - mae rhaid dewis y ddau lyfr i’w drafod, a dwi ddim wedi penderfnnu be ddylwn i gynnig eto.  Fel sgrifennais ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o’r cwrs ym Mangor (isod), does dim rhaid darllen llyfrau o’r rhestr - sy’n cynnwys:

Dirgel Ddyn; Noson yr Heliwr, Dyddiadur Gbara, Sara Arall, Wythnos yng Nghymru Fydd, Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, Blodyn Tatws neu unhyw un o lyfrau Cyfres y Cewri.  Mae’n amlwg bod y rhestr yn hen a bod o’n bosib darllen bron unryw lyfr arall wedi ei sgwennu ar gyfer oedolion - ond pa lyfrau i ddewis?  Ron i’n meddwl efallai Dyddiadur Gbara (dwi wedi darllen hwn ddwywaith ac er ei fod yn hen rŵan, mae’n ddiddorol, ond efalla bydd yn well cynnig Hanas Gwanas...) a falle Yn ol i Leifior? Os oes gennych chi awgrymiadau gadewch i fi wybod!!  Dwi newydd gorffen darllen Lara gan Eurug Wyn - llyfr ditectif sy’n gyffrous ac yn hawdd i ddarllen.  Yn wahanol iawn i Blodyn Tatws - sydd ar y rhestr

Diwrnod 2

Sesiwn defnyddiol neithiwr yn Llanfair PG  yn trafod be dan ni am wneud ar gyfer yr  arholiad, a cael ymarfer a'r gwrando a'r deall, a oedd yn iawn.  Hefyd mynd trwy'r  “darllen a deall“ - hefyd yn iawn.  Rhaid i fi benderfynu am y ddau lyfr i ddarllen yn fuan er mwyn cofrestru.  Mae'r rhestr o engreifftiau yn hen, a falle wnai ddewis rywbeth wahannol.  Gwnaeth Elwyn bwynt dda gan ddweud bod o'n bwysic cael llyfr gyda digon i'w drafod - dim jyst llyfr dan ni'n h offi.  Fy mhrofiad yn y clwb darllen, ydy bod llyfr dan ni i gyd yn hoffi ddim yn anghenreidiol yn  un sydd yn dilyn at y sgwrs gorau.

Ond mae'n amlwg i fi mae'r sgwennu (mwy ffurfiol) sydd angen ymarfer, felly mae gen i ddau bapur hen o'r arholidad i ddechrau arnyn nhw, a wedyn mi fyddaf yn archeb neu lawrlwythio mwy o'r wê.

A bore 'ma dan ni wedi siarad am y chwildro tecnolegol a hefyd wedi trafod  y ffyrdd gwahannol o cyfleu yr amser amodol neu arferol fel  “bywddwn ni, mi faswn ni, ron ni“ a oedd y n codi mewn erthygl can Bethan Gwanas.  Diddorol. Hwn roedd un peth a oedd y n fy chymysgu fi'n hollol pan ddes i'n ôl i’r Gymraeg.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home