Ailddysgu

Monday 31 December 2012

Diwedd y Flwyddyn

Dan ni ddim am fynd allan heno - a falle ddim am aros am ganol nos chwaith!  Dwi ddim yn hoff iawn o ddathlu'r Blwyddyn Newydd - a dwi ddim yn hoff o aros i fynny yn hwyr.  Felly ffilm ar y teledu a lasiad o win, a dyna fo.

Ond meddyliais bod o'n hen bryd i fi newid  y rhestr o lyfrau ar y blog - sydd braidd yn hen erbyn hyn. Ond, gan fy mod i ddim wedi cadw'r rhestr i fynny dwi wedi anghofio llawer o'r llyfrau dwi wedi darllen yn ystod y flwyddyn, felly dwi am trio cadw well trefn yn 2013!  A pan dwi'n cofio rhai o'r llyfrau eraill, wnai ychwanegu nhw.

Ond dros y Nadolig dwi wedi bod yn darllen dau lyfr Cymraeg:  Cyw Melyn y Fall, gan Gwen Parrott, a Hanas Gwanas - gan Bethan Gwanas wrth gwrs.  Dwi wedi mwynhau llyfrau Gwen Parrott o'r blaen a wedi darllen y llyfr gyntaf am Dela Arthur.  Roedd y llyfr hwn ddim mor hawdd i ddarllen (i fi, beth bynnag).  Un rewm ydy'r tafodiaeth (Sir Benfro?) ond heblaw am hynny, roedd yr hanes ddim mor hawdd i ddilyn chwaith, er bod hi'n ysgrifennwraig da iawn.  Mi orffenais y llyfr, ac roedd o'n cydio ynddo fi ond, nes i ddim mwynhau o gymaint a'r llyfrau eraill gan Gwen Parrott.

Roedd o'n anodd rhoid Hanas Gwanas i lawr hefyd - a darllenais o dros ryw ddwy neu dair ddiwrnod.  Ond dwi'n siwr byddai'n mynd yn ol ac aildarllen y llyfr.  Llyfr diddorol am fywyd diddorol.  Sut mae Bethan wedi llwyddo i wneud gymaint, tybed?

Dydd Mercher dwi'n mynd i aros yng Nghaernarfon a mi fyddai yn mynd i'r cwrs Galan eto.  Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ymarfer a falle gwella fy Nghymraeg - ac i chwilio am ychydig o lyfrau newydd (neu ail-law)

Blwyddyn Newydd Dda!


2 Comments:

At 8 January 2013 at 12:04 , Blogger Wilias said...

Dwi'n genfigenus o'r amser ti'n roi i ddarllen, ac yn anobeithiol fy hun. Pori tipyn yn hwn, llall, ac arall ydw i, heb dreulio amser iawn efo dim byd.
Mi gafodd y Ffermwr Ffowc, Bradley Wiggins, Nigel Slater, Barn, Golwg, Y Cymro, a Gardens Illustrated ychydig o sylw dros y gwyliau. Mae'n medru cymryd wythnosau i mi ddarllen nofel!
Mae 'Y Storiwr' ar fy rhestr i hefyd pan gaf gyfle.

 
At 14 January 2013 at 00:18 , Blogger Ann Jones said...

Jyst wedi sylwi ar hwn rwan Wilias - ac efalla bod yr amser sy'n mynd i ddarllen yn meddwl bod pethau eraill ddim yn cael eu wneud weithiau. Ond ta waeth! A fel arfer darllen ar y bws, neu pan dwi'd dechra'n gynnar fydda i. A, dwi'n darllen yn gyflym, sydd yn helpu...

Wyt ti'n darllen llyfr diweddar Nigel Slater? Mae'r llyfrau am llysiau a ffrwythau gen i, ond dim yr un 2012

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home