Mae'r Cymry ym mhobman - hyd yn oed rownd y gornel!
Mi gefais ebost ddoe, o Gymraes o Phwlleli. R'oedd hi'm chwilio am rywun a oedd yn siarad Cymraeg yn Milton Keynes. At ol ebostio'n ôl, mi wnaethon ddarganfod bod y dwy ohonom ni yn byw yn yr un dref - yma yn Newport Pagnell - a dim ond hynny: dan ni'n byw ryw ddwy gan lath o'n gilydd! A dan ni heb gyfarfod yn y bymtheg mlynedd mae hi wedi bod yn byw yma. Felly wnaethon ni gyfarfod am baned a choffi a sgwrs 'pnawn 'ma - a braf iawn r'oedd cael sgwrs yn y Gymraeg.
Dan ni'n siwr o gyfarfod rwan obryd i'w gilydd!
1 Comments:
Mae'r byd yn fach tydi! Partnar newydd ar gyfer y garddio guerilla?
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home