Ailddysgu

Thursday 16 January 2014

Dechrau’r flwyddyn newydd – darllen a taith cerdded



Mae’r gaeaf yn amser dda i eistedd ar y sofa (neu yn y gwely) a dal i fynny gyda darllen llyfrau.  Dwi wedi bod yn darllen Yr Erlid gan Heini Gruffudd.  Hwn ydy’r llyfr a ennillodd gwobr y flwyddyn.  (Sori, mae'r ddolen i fersiwn Saesneg- methu ffeindio'r un Cymraeg ar y funud)
Dwi wedi darllen bron hanner y llyfr – a mae o’n dda iawn, ond dim, wrth gwrs, rhywbeth ysgafn, neu hawdd.  Mwynhais llyfr arall ar y rhestr Llyfr y Flwyddyn hefyd, sef Blasu, gan Manon Steffan Ros.  Mae hon yn nofel wych, fel sy’n cael adlewyrchu yn yr adolygiad yn golwg.

Hefyd dwi’n ail-ddarllen Wythnos yng Nghymru Fydd.  Hon ydy’r nofel dan ni am drafod ar ddiwedd y fis yn y Clwb Darllen Llundain.  (Gadewch i fi wybod os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno!)  Dwi wedi ei ddarllen o’r blaen a dwi’n mwynhau darllen hi eto – mae’r llyfr yn cydio o’r dechrau – a ffordd gwych am drafod dyfodol yr iaith – a pherswadio pobl i wiethio dros yr iaith.  Ond, r’on i wedi anghofio’r rhan o’r llyfr yn son am ddyfodol crefydd yn Nghymru – braidd yn ddiflas yn fy marn i. – yn enwedig am nad ydw yn grefyddol.

Dros y gwyliau , des ar draws raglen Pethe lle roedd Bethan Gwanas yn trafod ac edrych yn ol dros llyfrau 2013.  Roedd hwn yn rhoi syniadau ac awgrymiadau da am lyfrau i ddarllen.   Roedd Bethan yn canmol “Twll bach y clo”  gan Lleucu Hughes  a “Gwe o glymau sidan” .  Dwi am brynu y ddau lyfr o Palas Print – a tro yma, dwi’n gobeithio prynu nhw yn y siop , dim dros y we, achos dwi’n mynd trwy Gaernarfon yfory ar fy ffordd i Aberdaron am dipyn fwy o gerdded ar hyd yr arfordir.  Ond dydy’r tywydd ddim yn edrych yn addawol O GWBL.

Yn dilyn y rhaglen darganfais blog weddol newydd Bethan Gwanas: – lle may hi’n son am lyfrau:  llyfrau plant ydy’r rhan fwyaf – ond mae hynny’n iawn gen i!  Felly dwi’n gobeithio darllen: Eira Man ac Y Dyn Gwyrdd gan Gareth F Williams, ac efallai Y Gwaith Powdr – gan Sian Northey.

Digon i gadw fi'n mynd am y tro.


2 Comments:

At 17 January 2014 at 13:17 , Blogger Unknown said...

Hi Ann,

Diddorol gweld bod chi'n trial ail-ddysgu'r Gymraeg fel pe tai. Mae Cymraeg hefyd yn ail iaith i mi ond dwi'n dod o Lanelli, Sir Gaerfyrddin felly mae'n fwy fel iaith gyntaf y dyddiau yma.

Mae'n edrych fel bod chi'n wneud yn ardderchog, yn enwedig gan dy fod byw yn Milton Keynes yn awr. Wir, mae amser gyda pawb yn ystod Nadolig/Blwyddyn newydd.

Mae gen i flog hefyd ar sut i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd (fwy perthnasol os ydych chi'n byw yng Nghymru) ond efallai y bydd yn eich diddori i weld sut mae pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg yng Nghymru erbyn hyn.

Edrych ymlaen dilyn eich taith chi a daliwch ati!

Christian

 
At 11 February 2014 at 14:30 , Blogger Ann Jones said...

Helo Christian

Ond newydd gweld eich sylw. Diolch am hynny! Mae o dipyn o her yn Milton Keynes yn wir, ond y dyddiau yma gyda'r we, mae o'n bosib gwneud llawer o bethau trwy gyfrwng y Cymraeg - ond medrai ddim dweud fy mod i'n medru byw trwy'r Cymraeg. Mae o'n bosib, serch hynny, cyfathrebu yng Nghymraeg yn unig mewn rhai cylchau.

Diolch hefyd am y gwybodaeth am eich blog. Dwi wedi cael cipolwg a mi fyddai yn mynd yn ol i ddarllen yn mwy fanwl.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home